Ysgol Gynradd Plas Coch

Ysgol Gynradd Plas Coch

Share

Ysgol Gynradd gyfrwng Gymraeg yn Wrecsam. A Welsh medium primary school in Wrexham

18/07/2026

Ddoe, fe ffarweliom efo tri aelod o staff. Dymuniadau gorau iddynt yn y dyfodol.

Yesterday, we said goodbye to three members of staff. Best wishes for the future.

Mr Jake Phillips – mae Mr Phillips wedi bod yn athro ar ddosbarth Glyndwr tra bod Miss Hanna Roberts ar gyfnod mamolaeth. Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Phillips am ei waith dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn dymuno’r gorau iddo ar ei swydd newydd yn Ysgol Gwernant, Llangollen ym mis Medi.

Mr Phillips has been a teacher in Glyndwr class covering Miss Hanna Roberts’ maternity leave. We are very grateful to Mr Phillips for his work over the last year and wish him well in his new job at Ysgol Gwernant in Llangollen.



Mrs Nicola Edwards – Mae cyfnod Mrs Edwards fel cymhorthydd yn dod i ben wedi 16 o flynyddoedd yn yr ysgol. Mae Mrs Edwards wedi bod yn gweithio fel cymhorthydd mewn gwahanol ddosbarthiadau, fel cymhorthydd 1 i 1, yn arwain yr Hafan ac yn y Clwb ar ol Ysgol. Byddwn i gyd, yn staff a disgyblion yn colli ei chwmni a’i phersonoliaeth yn fawr iawn a rydym yn dymuno’r gorau iddi ar ei menter newydd.

Mrs Edwards has been working at the school as a Teaching Assistant for 16 years. She has worked in various classes, been a 1 to 1 TA, led the ‘Hafan’ and worked in the After School Club. Everyone, staff and pupils alike will miss her company and bubbly personality very much and wish her all the best in her new venture.



Mrs Eleri Owens – Yn dilyn dros 23 mlynedd yn gweithio yn yr ysgol fel ysgrifenyddes / swyddog gweinyddol bydd Mrs Owens yn ymddeol ar ddiwedd y tymor. Mae Mrs Owens wedi bod yn aelod gwerthfawr o staff yr ysgol dros y blynyddoedd ac y person a’r llais cyntaf mae nifer o rieni ac ymwelwyr yn ei gweld a chlywed wrth gysylltu. Mae natur y swydd wedi newid llawer dros y blynyddoedd a mae Mrs Owens wedi ymgymryd â’r newidiadau yn arbennig gan gyflawni’r gwaith yn effeithiol ac effeithlon. Bydd yna golled fawr ar ei hôl, bydd pawb sy’n ymwneud â’r ysgol yn ei methu a rydym yn dymuno’r gorau iddi ar ei hymddeoliad.

After 23 years of working as the school’s secretary / admin officer, Mrs Owens will be retiring at the end of the term. Mrs Owens has been a valuable member of the school staff over the years and the first point of contact for parents and visitors to the school and on the phone. The nature and demands of her work have changed a lot over the years and Mrs Owens has embraced these changes and completed the role effectively and efficiently. She will be missed by all connected to the school and we wish her the very best on her retirement.

17/07/2026

Ar ddiwedd y flwyddyn addysgol, hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth a chydweithio drwy'r flwyddyn, rydym fel ysgol yn ei werthfawrogi'n fawr. Pob hwyl i'n disgyblion Blwyddyn 6 fydd yn symud ymlaen i'w hysgolion uwchradd a diolch am eu cyfraniad i Blas Coch. Diolch hefyd ar ran y staff am yr holl anrhegion, cardiau a geiriau caredig a dderbyniom.

Hoffwn adael i chi wybod y byddaf yn cymryd gofal am Ysgol Bro Alun, yn ogystal a Phlas Coch am gyfnod yn y flwyddyn addysgol newydd. Mae pennaeth newydd wedi cael ei apwyntio i Fro Alun, ond nid yw'n gallu cychwyn yn syth, felly byddaf yn cynorthywo i redeg yr ysgol tan y bydd yn cychwyn. Trefniant dros dro fydd hwn, nid unrhywbeth tebyg i'r ffederasiwn fu'n bodoli rhwng y ddwy ysgol yn y gorffennol. Ar y adegau y byddaf ym Mro Alun, bydd Mrs Lowri Hogg yn gyfrifol am Plas Coch.

Gobeithio y gwnaiff pawb fwynhau'r haf; bydd yr ysgol yn ail agor i'r disgyblion (Derbyn i Bl 6) ar ddydd Iau, Medi'r 3ydd.

At the end of the school year, I'd like to thank you all for your support and all the co-operation over the year, as a school, we appreciate it very much. All the best to all the Year 6 pupils moving on to their secondary schools and thank you for all their contribution to the school over the years. Thank you also on behalf of the staff for all the gifts, cards and kind words that was received.

I'd like to inform you that in the new school year I will be working as a head teacher at Ysgol Bro Alun as well as Plas Coch. A new head teacher has been appointed at Bro Alun, but he is not able to start straight away, so I will be helping to run the school until he starts. This is a temporary arrangement and nothing like the federation between the two school that existed in the past. At the times when I'll be at Bro Alun, Mrs Lowri Hogg will be responsible for Plas Coch.

I hope that you all enjoy the summer; the school will reopen for the pupils (Reception to Year 6) on Thursday, September 3rd.

Diolch, Osian Jones

08/07/2026

Diolch yn fawr iawn i'r holl ddisgyblion, o'r Meithrin i Bl 6 am eu hymdrechion yn y mabolgampau dros y ddeuddydd diwethaf. Pawb wedi gwneud yn arbennig o dda mewn awyrgylch cefnogol, er gwaetha'r tywydd poeth ☀️! Diolch yn fawr iawn i'r staff am sicrhau fod y ddau ddiwrnod yn rhedeg yn llyfn ac i rieni a theuluoedd am eich cefnogaeth arferol (a'r gazebos!!)

Thank you to all the pupils, from Nursery to Year 6 for their efforts in the sports days over the last couple of days. Each and every one did brilliantly in a supportive atmosphere, despite the hot weather ☀️! Thank you to all the staff for ensuring that everything ran smoothly and to parents and families for your usual support (and the gazebos!)

06/07/2026
Photos from Ysgol Gynradd Plas Coch's post 21/06/2026

Am brofiad i rai o'n disgyblion neithiwr yn cael cymryd rhan mewn cyngerdd efo Cantorion Sirenian Singers yn Eglwys Gresffordd, gan gynnwys cael cydganu efo nhw ar y diwedd. Diolch yn fawr i'r disgyblion, y teuluoedd ddaeth i gefnogi ac i Mrs Hogg a Mrs Mostyn Evans am eu gwaith yn paratoi'r disgyblion.

What an experience for some of our pupils, taking part in a concert with Cantorion Sirenian Singers at Gresford Church last night, including singing with them at the end. Thank you to the pupils, the families that came to support and to Mrs Hogg and Mrs Mostyn Evans for their work with the pupils.

14/06/2026

Rydym yn edrych am berson addas i gychwyn fel swyddog gweinyddol yr ysgol ym mis Medi. Os oes efo chi ddiddordeb neu’n adnabod rhywun sydd â diddordeb, cysylltwch efo’r ysgol am fwy o fanylion neu ewch i wefan swyddi CBSW (dolen isod).

We are looking for a suitable person to work as the school’s administrative officer, starting in September. If you are interested, or know someone that is interested, please contact the school or visit the WCBC jobs website (link below).

https://swyddi.wrecsam.gov.uk/vacancies/680/administrative-officer.html

https://jobs.wrexham.gov.uk/vacancies/680/administrative-officer.html

jobs.wrexham.gov.uk

Photos from Ysgol Gynradd Plas Coch's post 10/06/2026

Cafodd disgyblion Bl 3-6 berfformiad arbennig o 'The Railway Children' y prynhawn 'ma. Pawb wedi gwylio a gwrando'n wych a wedi mwynhau'n ofnadwy!

Thank you to M&M Theatrical Productions for a captivating performance of The Railway Children for our Year 3-6 pupils this afternoon. Everyone enjoyed so much and we can't wait for another performance next year!

05/06/2026

Ar ddiwedd tridiau prysur a llawn mwynhad yng Nghaerdydd, diolch yn fawr i'n disgyblion Blwyddyn 6 am wneud yr ymweliad yn un mor arbenning drwy fwynhau, ymddwyn yn wych, dangos brwdfrydedd a chysgu(!). Rydym yn falch iawn ohonynt! Diolch yn fawr hefyd i Mrs Parkes, Mr Jones a Mrs Hogg am roi o'u hamser i fynd efo nhw.

At the end of a busy and very enjoyable three days in Cardiff, thank you to our Year 6 pupils for making the visit such an enjoyable one, showing enthusiasm, behaving impeccably, enjoying and sleeping (!). We are very proud of them! Thank you very much also to Mrs Parkes, Mr Jones and Mrs Hogg for giving up their time to go with them.

Want your school to be the top-listed School/college in Wrexham?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Telephone

Address


Wrexham
LL112BU