05/03/2026
Diolch enfawr i Gorsaf Dân Porthmadog Fire Station am ddŵad i’r ysgol a rhoi eu amser i gynnal sesiwn mor addysgiadol a diddorol. Roedd y profiad yn un diddorol a chofiadwy iawn i’r plant gan eu helpu i ddysgu am ddiogelwch tân a rol / gwaith pwysig mae’r diffodwyr tân yn ei wneud i gadw ni ar gymuned yn ddiogel.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd y disgyblion weld yr injan dân newydd a chael esboniad am yr offer sydd ganddynt. Cawsom hefyd y cyfle i weld yr offer yn agos, dysgu sut mae’n cael ei ddefnyddio a’i gwisgo.
Diolch unwaith eto i chi, pawb wedi mwynhau 🚒😊