Gower College Swansea - GCS

Gower College Swansea - GCS [Dwyieithog / Bilingual]

CYMRAEG:

Tudalen Facebook swyddogol Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach mawr yn Abertawe, sy’n darparu addysg a hyfforddiant o’r ansawdd gorau sy’n ysbrydoli ac yn cynorthwyo ein dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, gan gynnwys bron 40 pwnc Safon Uwch a 40 pwnc galwedigaethol, ynghyd â chyrsiau addysg uwch a phrentisiaethau. Mae dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn ac 8,000 o ddysgwyr rhan-amser – gan gynnwys 3,000 o brentisiaid. Mae’r Coleg yn gweithredu o saith lleoliad ar draws Abertawe, gan gynnwys Campws Tycoch a Champws Gorseinon, ac mae’n un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal gyda thros 1,000 o aelodau staff. Mae’r Coleg yn cymryd lles ei staff o ddifrif ac mae’n falch o fod wedi ennill Gwobrau Iechyd Corfforaethol Efydd, A***n ac Aur.

***

ENGLISH:

Official page of Gower College Swansea. Gower College Swansea is a large further education college in Swansea, delivering the highest quality of education and training that inspires and supports all of our learners to achieve their full potential. Gower College Swansea offers a wide range of full time and part time courses, including almost 40 A Level subjects and 40 vocational subject choices, alongside higher education courses and apprenticeships. There are over 4,500 full time and 8,000 part time learners – including 3,000 apprentices. The College operates from seven locations across Swansea, including campuses at Tycoch and Gorseinon and is one of the largest employers in the region with over 1,000 staff. The College takes the wellbeing of its staff extremely seriously and is proud to have achieved Bronze, Silver, and Gold Corporate Health Awards.

Siapio arweinwyr y dyfodol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth 🎓🚨🚒Shaping future leaders beyond the classroom 🎓🚨🚒Diolch i b...
02/10/2026

Siapio arweinwyr y dyfodol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth 🎓🚨🚒
Shaping future leaders beyond the classroom 🎓🚨🚒

Diolch i bartneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy’n cynnig gradd mewn Arweinyddiaeth Tân ac Achub, roedd myfyrwyr ail flwyddyn cwrs Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai Lefel 3 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn gallu mwynhau diwrnod llawn gweithgareddau gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 👩‍🚒

Yn ystod y sesiwn yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood, fe wnaeth y myfyrwyr brofi elfennau o brawf ffitrwydd hyfforddeion gan gynnwys cario’r bibell a symud rhywun anafus allan o berygl. Aethon nhw y tu mewn i’r tŷ mwg hefyd a dysgu rhagor am yr hyn y mae ymladdwyr tân dan hyfforddiant yn ei brofi wrth gymryd rhan yn y profion mynediad trwyadl 🧯🔥

Mae’r myfyrwyr yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood i gyd yn rhan o Academi Gwasanaethau Cyhoeddus y Coleg, sy’n rhedeg mewn partneriaeth â PCDDS, Prifysgol De Cymru, Heddlu De Cymru a GTACGC 👨🏾‍🎓

***

Thanks to a partnership with the University of Wales Trinity Saint David, which offers a Degree in Fire and Rescue Leadership, students on the second year of the Level 3 Uniformed Protective Services course at Gower College Swansea were able to enjoy an action-packed day with the Mid and West Wales Fire and Rescue Service 👩‍🚒

During the session at the Earlswood Training Centre, the students experienced elements of a trainee’s fitness test including the hose carry and the casualty drag. They also went inside the smoke house and learned more about what trainee firefighters experience when taking part in the rigorous entry tests 🧯🔥

The students at Earlswood Training Centre are all part of the College’s Public Services Academy, which is run in partnership with UWTSD, the University of South Wales, South Wales Police and MAWWFRS👨🏾‍🎓

University of Wales Trinity Saint David
University of South Wales
Gwasanaeth Tân ac Achub CGC / MAWW Fire and Rescue
South Wales Police

Coleg Gŵyr Abertawe i Noddi Gwobrau Plentyn Cymru 2026 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Child of Wales Awards 2026 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Mae Coleg Gŵyr Abertawe ...
30/09/2026

Coleg Gŵyr Abertawe i Noddi Gwobrau Plentyn Cymru 2026 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Child of Wales Awards 2026 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyhoeddi y bydd yn noddi Gwobrau Plentyn Cymru unwaith eto eleni 🏆

Fel noddwr Gwobr Elusen Ragorol, mae’n bleser gan y Coleg gefnogi digwyddiad sy’n cydnabod dewrder, gwydnwch, tosturi a phenderfyniad pobl ifanc ledled y wlad

Bydd y gwobrau eleni yn cael eu cynnal yn adeilad mawreddog Arena Abertawe ddydd Gwener 2 Hydref, gan ddwyn ynghyd blant, teuluoedd, elusennau, sefydliadau a chefnogwyr o bob cwr o Gymru ar gyfer noson sy’n dathlu cyflawniadau anhygoel pobl ifanc 🙏👪🏿

Yn ogystal, bydd gan Goleg Gŵyr Abertawe bresenoldeb cryf yn y digwyddiad, gyda’i ddysgwyr Teithio a Thwristiaeth yn cefnogi’r carped coch fel rhan o’r Garfan Hunluniau 🤳

***

Gower College Swansea is delighted to announce that it will once again be sponsoring this year's Child of Wales Awards 🏆

As sponsor of the Outstanding Charity Award, the College is proud to support an event that recognises the courage, resilience, compassion and determination demonstrated by young people in communities across the country

This year’s awards will take place at the prestigious Swansea Arena on Friday 2 October, bringing together children, families, charities, organisations and supporters from across Wales for an evening dedicated to celebrating the extraordinary achievements of young people 🙏👪🏿

Gower College Swansea will also have a strong presence at the event, with its Travel and Tourism learners supporting the red carpet as part of the Selfie Squad 🤳

Child of Wales Awards

Dysga i arddio am ddim! 🌱Learn to garden for free! 🌱Mae ein cwrs garddio i ddechreuwyr yn RHAD AC AM DDIM ym mis Hydref ...
30/09/2026

Dysga i arddio am ddim! 🌱
Learn to garden for free! 🌱

Mae ein cwrs garddio i ddechreuwyr yn RHAD AC AM DDIM ym mis Hydref a mis Ionawr!

Dere i ddysgu sgiliau tymhorol ymarferol fel:
🌸 Plannu bylbiau’r gwanwyn a gwahanu blodau lluosflwydd
🍂 Paratoi pridd a gwneud compost cyfoethog
🍎 Cynaeafu cnydau a chasglu hadau
🐝 Denu bywyd gwyllt i dy ofod gwyrdd
✂️ Toriadau, amddiffyn dros y gaeaf, a thocio

Dyma gyfle i gysylltu ag eraill sy’n dwlu ar blanhigion, bod yn yr awyr agored, a chynllunio gardd hardd drwy gydol y flwyddyn 🌿

⏰ Bob bore Gwener, 9am-12pm
📍Hwb Gwyrdd, Campws Tycoch

Mae lleoedd yn gyfyngedig i gadw’r grŵp yn fach ar gyfer y tasgau ymarferol.

Cadw dy le heddiw 👉 https://ow.ly/oBh650ZSZAa

***

Our beginners’ gardening course is FREE in October and January!

Learn hands-on seasonal skills like:
🌸 Planting spring bulbs and dividing perennials
🍂 Preparing soil and making rich compost
🍎 Harvesting crops and collecting seeds
🐝 Attracting wildlife to your green space
✂️ Cuttings, winter protection, and pruning

Connect with fellow plant lovers, get outdoors, and plan for a beautiful garden all year round 🌿

⏰ Friday mornings, 9am-12pm
📍Green Hwb, Tycoch Campus

Spaces are limited to keep group sizes friendly and hands-on.

Reserve your spot today 👉 https://ow.ly/Kxwj50ZSZAb

Meddwl am yrfa mewn gofal plant neu fel cynorthwyydd addysgu ond mae angen cymwysterau arnat? 🧸Thinking about a career i...
29/09/2026

Meddwl am yrfa mewn gofal plant neu fel cynorthwyydd addysgu ond mae angen cymwysterau arnat? 🧸
Thinking about a career in childcare or as a teaching assistant but need the qualifications? 🧸

Mae’r cwrs hwn yn dy baratoi ar gyfer astudiaeth Lefel 2 trwy adeiladu:
📚 Sgiliau darllen ac ysgrifennu
🗣️ Hyder wrth siarad a gwrando
⏰ Sgiliau astudio a rheoli amser
💻 Sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol ar gyfer dysgu

Dau gymhwyster, un cwrs, dim arholiadau! Dim ond dysgu ymarferol, go iawn.

Rhagor o wybodaeth: https://ow.ly/7z3650ZSH9M

***

This course gets you ready for Level 2 study by building:
📚 Reading & writing skills
🗣️ Speaking & listening confidence
⏰ Time management & study skills
💻 Basic computer skills for learning

Two qualifications, one course, no exams! Just practical, real-life learning.

Learn more: https://ow.ly/8yfw50ZSH9P

Barod i gynllunio dy gamau nesaf ar ôl yr ysgol? 💭Ready to plan your next steps after school? 💭Mae ein Canllaw Cyrsiau i...
28/09/2026

Barod i gynllunio dy gamau nesaf ar ôl yr ysgol? 💭
Ready to plan your next steps after school? 💭

Mae ein Canllaw Cyrsiau i Ymadawyr Ysgol 2027–28 wedi cyrraedd! ⚡

Galwa heibio un o’n campysau i gasglu dy gopi o’r dderbynfa, neu edrycha ar ein cyrsiau ar-lein: https://ow.ly/uRpI50ZS7rg

***

Our 2027–28 School Leavers' Course Guide is here! ⚡

Pop into one of our campuses to pick up your copy from reception, or explore our courses online: https://ow.ly/uiib50ZS7re

27/09/2026

Wythnos Addysg Oedolion = WEDI GORFFEN! 🎉
Adult Learners’ Week = DONE! 🎉

Am wythnos! 💗

O fod yn greadigol mewn gweithdai serameg, gwneud printiau, gwnïo, peintio ac arlunio, i ddarganfod sgiliau digidol newydd, gweminarau, cwrdd â phartneriaid yn Y Storfa a chymryd rhan yn 10K Abertawe, rydyn ni wedi bod yn dathlu popeth am addysg oedolion ar draws Abertawe.

Mae mwy i ddysgu na chymwysterau.

Gall olygu dilyniant gyrfa. Sgiliau newydd. Diddordebau newydd. Hyder a rhoi cynnig ar rywbeth rwyt ti wedi bod eisiau ei wneud erioed.

Archwilia ein amrywiaeth o gyrsiau addysg oedolion: https://ow.ly/QtcT50ZRrVi

***

What a week! 💗

From getting creative at ceramics, printmaking, sewing, painting and drawing workshops, to discovering new digital skills, webinars, meeting partners at Y Storfa and getting involved in the Swansea 10K we’ve been celebrating all things adult learning across Swansea.

Because learning isn’t just about qualifications.

It can be about career progression. New skills. New interests. Confidence and trying something you’ve always wanted to do.

Explore our range of adult learning courses: https://ow.ly/WgM750ZRs7M

24/09/2026

Mae hi’n Wythnos Addysg Oedolion 👨🏽
It’s Adult Learners’ Week 👨🏽
 
Dere i ddweud helo – heddiw yn Y Storfa tan 2pm 👋🕑
Come and say hello - today at Y Storfa until 2pm 👋🕑


Darganfydda rywbeth newydd yn Y Storfa! Discover something new at Y Storfa! Byddwn ni yn Y Storfa ddydd Iau 24 Medi, 10a...
22/09/2026

Darganfydda rywbeth newydd yn Y Storfa!
Discover something new at Y Storfa!

Byddwn ni yn Y Storfa ddydd Iau 24 Medi, 10am–2pm, ochr yn ochr â Dysgu Gydol Oes, gydag amrywiaeth o sesiynau blasu AM DDIM i dy helpu i ddarganfod dy angerdd am ddysgu, adeiladu dy sgiliau a rhoi hwb i dy hyder

✨ Mynediad i Fusnes
🔧 Mynediad i Beirianneg
💙 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
🌍 Ieithoedd

Dere i ddweud helo wrth staff Coleg Gŵyr Abertawe a rhoi cynnig ar rywbeth newydd!

***

We’ll be at Y Storfa on Thursday 24 September, 10am–2pm, alongside Swansea Lifelong Learning, with a range of FREE taster sessions to help you discover your passion for learning, build your skills and boost your confidence

✨ Access to Business
🔧 Access to Engineering
💙 Health and Social Care
🌍 Languages

Come along and say hello to the Gower College Swansea staff and try something new!

Learning and Work Institute / Sefydliad Dysgu a Gwaith
Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales
Swansea Council

✨ Sesiynau blasu am ddim!✨ Free taster sessions!I ddathlu Wythnos Addysg Oedolion, mae gennym amrywiaeth mawr o sesiynau...
21/09/2026

✨ Sesiynau blasu am ddim!
✨ Free taster sessions!

I ddathlu Wythnos Addysg Oedolion, mae gennym amrywiaeth mawr o sesiynau blasu am ddim y gelli di ymuno â nhw ym mis Medi.

Dyma gyfle perffaith i roi cynnig ar rywbeth newydd!

Edrycha i weld beth sydd ar gael yma: https://ow.ly/aeNK50ZOGz3

***

To celebrate Adult Learners’ Week, we have a huge range of free taster sessions and webinars you can join throughout September.

This is the perfect opportunity to try something new! 🎨🧑‍💻

Take a look at what’s on offer here: https://ow.ly/l6oA50ZOGz2

Learning and Work Institute / Sefydliad Dysgu a Gwaith

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yma! 🥳Adult Learners’ Week is here! 🥳Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn gadael yr ysg...
21/09/2026

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yma! 🥳
Adult Learners’ Week is here! 🥳

Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn gadael yr ysgol neu goleg. Bob dydd, mae oedolion ledled Cymru yn adeiladu sgiliau newydd, yn cynyddu mewn hyder, yn gwella eu llesiant ac yn agor drysau i gyfleoedd newydd.

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu grym dysgu gydol oes a’r gwahaniaeth a wnaiff i bobl, teuluoedd, cymunedau a gweithleoedd.

Rydym yn falch i gefnogi’r ymgyrch genedlaethol gyda’r Learning and Work Institute / Sefydliad Dysgu a Gwaith i annog oedolion o bob oed i ymchwilio cyfleoedd dysgu newydd.

Gyda’n gilydd, gadewch i ni annog Cymru i ddysgu, tyfu a ffynnu.
Cer i: https://adultlearnersweek.wales/?lang=cy i wybod rhagor neu i weld beth sydd ymlaen gennym yn: https://ow.ly/zSim50ZAsLl

***

Learning doesn't stop when we leave school or college. Every day, adults across Wales are building new skills, growing in confidence, improving their wellbeing, and opening doors to new opportunities.

Adult Learners' Week celebrates the power of lifelong learning and the difference it makes to people, families, communities and workplaces.

We're pleased to support this national campaign alongside Learning and Work Institute / Sefydliad Dysgu a Gwaith to encourage adults of all ages to explore new learning opportunities.

Together, let's help Wales learn, grow and thrive.

Visit: https://adultlearnersweek.wales/ to find out more or see what we have on at: https://ow.ly/jJhT50ZAsLm

Address

Gower College Swansea, Tycoch Road
Swansea
SA29EB

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 9pm
Wednesday 8:30am - 5pm
Thursday 8:30am - 9pm
Friday 8:30am - 4:30pm

Telephone

+441792284000

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Gower College Swansea - GCS posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Category