18/09/2025
Hoffem gymryd eiliad i ddweud diolch o galon i bawb sydd wedi estyn allan ers y tân.
Mae eich dymuniadau da, eich cynigion o gymorth, a’ch negeseuon meddylgar wedi golygu cymaint. Yn y cyfnod byr rydyn ni wedi bod yma, mae Pwllheli eisoes wedi profi i fod yn gymuned rwy’n hynod falch ein bod yn rhan ohoni, rwan mwy nac erioed!
Rwy’n gweithio fy ffordd drwy’r holl negeseuon ac e-byst, a byddaf yn ymateb i bawb cyn gynted ag y gallaf. Mae pob gair a phob cynnig o gymorth yn cael eu gwerthfawrogi fwy nag y gallaf ddweud.
O waelod fy nghalon- diolch yn fawr am sefyll gyda ni.
Daloni🌈❤️