18/07/2026
Mae’n anodd dod o hyd i’r geiriau wrth geisio ffarwelio â lle sydd wedi bod yn gymaint mwy na swydd.
Mae Ysgol Borth y Gest wedi bod yn ail gartref i mi. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda phlant rhyfeddol, teuluoedd cefnogol a staff arbennig sydd wedi dod yn ffrindiau oes. Rydym wedi rhannu cymaint o chwerthin, dagrau, heriau a llwyddiannau, ac mae pob un ohonoch wedi gadael ôl ar fy nghalon.
Roedd ddoe yn ddiwrnod emosiynol iawn wrth i ni ffarwelio gyda phlant arbennig blywyddyn 6 wrth iddynt gychwyn pennod nesaf eu stori ac wrth i minnau hefyd ffarwelio. Mae’r holl gardiau, yr anrhegion, yr hygs mawr, y geiriau caredig a’r atgofion wedi fy llethu mewn ffordd na allaf ei rhoi mewn geiriau. Diolch o waelod calon i bob un ohonoch am wneud i mi deimlo mor werthfawr.
Er fy mod yn edrych ymlaen at bennod newydd, bydd gadael cymuned mor arbennig yn dorcalonnus. Bydd Ysgol Borth y Gest, a’r bobl anhygoel sydd ynddi, wastad yn rhan enfawr o bwy ydw i. Byddaf yn cario’r atgofion a’r cyfeillgarwch gyda mi am weddill fy oes.
Diolch am bopeth. ❤️ Miss Jones ###
❤️💙💜💚💛🧡🤍❤️💙💜💚💛🧡🤍❤️💙💜
It’s hard to find the words when saying goodbye to a place that has meant so much more than just a job.
Ysgol Borth y Gest has been a second home to me. Over the years, I have had the privilege of working with incredible children, supportive families, and an amazing team of staff who have become lifelong friends. We have shared so much laughter, tears, challenges, and successes, and every one of you has left a lasting mark on my heart.
Yesterday was an incredibly emotional day as we said goodbye to our wonderful Year 6 pupils as they embarked on the next chapter of their journey, while I too said my own farewells. The cards, gifts, big hugs, kind words, and precious memories have overwhelmed me in a way that is impossible to put into words. Thank you, from the bottom of my heart, to every one of you for making me feel so valued.
Although I am excited to begin a new chapter, leaving such a special community is truly heartbreaking. Ysgol Borth y Gest, and the extraordinary people who make it what it is, will always be a huge part of who I am. I will carry the memories and the friendships with me for the rest of my life.
Thank you for everything. ❤️ Miss Jones