20/08/2026
Cafwyd canlyniadau arbennig eleni gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn eu cyrsiau TGAU / BTEC. Mae’r canlyniadau yn dangos llwyddiant parhaus yn ein cyrsiau TGAU traddodiadol a chyrsiau galwedigaethol a’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Mae nifer o ddisgyblion wedi llwyddo yn rhagorol ar draws yr holl bynciau ac wedi gwneud cymuned Dyffryn Conwy yn falch iawn o’u llwyddiant!
Mae heddiw yn ddiwrnod i ddathlu – llongyfarchiadau!🌟🎉👏🏼
Rydym hefyd yn dathlu llwyddiant ein disgyblion Blwyddyn 10 ar eu canlyniadau yn dilyn cwblhau arholiadau mewn rhai pynciau / unedau. Rydym yn falch iawn o lwyddiannau ein disgyblion. Rydym hefyd yn awyddus ar ran yr ysgol a’i Llywodraethwyr i ddiolch i’w teuluoedd am eu cefnogaeth, ac i staff am eu holl waith caled ac ymroddiad. Dymunwn yn dda i bob un o’n disgyblion ar gyfer eu dyfodol boed hynny yn dychwelyd i’r Chweched Dosbarth, llwybr coleg, byd gwaith neu brentisiaeth, ac yn eu gyrfaoedd tu hwnt!
Ysgol Dyffryn Conwy pupils achieved special results this year in their GCSE / BTEC. The results show continued success in our traditional GCSE courses and vocational courses and the Skills Challenge Certificate.
Several pupils have succeeded to gain excellent results across all subjects and have made the Dyffryn Conwy community very proud of their success!
Today is a day to celebrate - congratulations!🌟🎉👏🏼
We are also celebrating the success of our Year 10 pupils on their achievements in completing some subject areas / units. We are very proud of our pupils’ successes. We are also keen on behalf of the school and its Governors to thank their families for their support, and to staff for all their hard work and dedication. We wish all our pupils well for their future, whether that be returning to the Sixth Form, college, the world of work or an apprenticeship, and in their careers beyond!