25/02/2023
Half term hot dogs and soup for all
This week’s soup pop-up at County Hall is an extra family-friendly affair with hot dogs also on offer.
The weekly soup evenings in the former canteen have been growing in popularity and on Thursday, 23rd February the doors will be open from 3.30pm to 5.30pm.
A tasty, nutritious soup will be available, along with bread, as well as hot dogs, for anyone to eat in or take away – for free!
The warm, friendly space also has free Wi-Fi so why not take the opportunity for some downtime and free dinner?
Everyone is welcome.
Cost of Living funding is being used to extend the scheme throughout February and March.
It was started in January by Council staff volunteers and generous donations from Council suppliers with around 120 people of all ages tucking in to free soup and bread every Thursday.
Cabinet member for Education and the Welsh Language Cllr Guy Woodham said: “This fantastic initiative has been enjoyed by lots of people already and this half term is a chance to bring the whole family along. Everyone is welcome to join us for a free dinner in a warm, friendly setting at County Hall, Haverfordwest.”
Cŵn poeth a chawl i bawb dros hanner tymor
Mae pop-yp cawl yr wythnos yma yn Neuadd y Sir yn ddigwyddiad ychwanegol sy'n addas i deuluoedd gyda chŵn poeth hefyd ar gael.
Mae'r nosweithiau cawl wythnosol yn yr hen ffreutur wedi bod yn tyfu mewn poblogrwydd a dydd Iau, 23 Chwefror bydd y drysau ar agor rhwng 3.30pm a 5.30pm.
Bydd cawl blasus a maethlon ar gael, ynghyd â bara, yn ogystal â chŵn poeth, i unrhyw un eu bwyta yno neu fynd gyda nhw - yn rhad ac am ddim!
Mae gan y gofod cynnes, cyfeillgar Wi-Fi am ddim hefyd felly beth am fanteisio ar y cyfle i gael ychydig o amser ymlacio a chinio am ddim?
Mae croeso i bawb.
Mae cyllid Cost Byw yn cael ei ddefnyddio i ymestyn y cynllun drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth.
Cafodd ei ddechrau ym mis Ionawr gan wirfoddolwyr staff y Cyngor a rhoddion hael gan gyflenwyr y Cyngor gyda thua 120 o bobl o bob oed yn cael cawl a bara am ddim bob dydd Iau.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg: “Mae llawer o bobl eisoes wedi mwynhau'r fenter wych hon ac mae'r hanner tymor hwn yn gyfle i ddod â'r teulu cyfan gyda chi. Mae croeso i bawb ymuno â ni am ginio am ddim mewn lleoliad cynnes a chyfeillgar yn Neuadd y Sir, Hwlffordd.”