05/06/2026
Waw, mae wythnos wedi mynd ers i ni fod ar faes Eisteddfod yr Urdd gyda’n hardal newydd, ‘Ystafell Athrawon’!
Roedd hi’n wythnos arbennig iawn i CYDAG – cyfle gwerthfawr i gwrdd ag athrawon ac addysgwyr o bob cwr, cydweithio effeithiol gyda’r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru/National Music Service Wales ac e-sgol, a chael trafodaethau cynhyrchiol gyda’r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan am ddyfodol addysg, y Gymraeg, a’r celfyddydau yng Nghymru. 🎶🤝
Diolch i bawb a fu’n rhan o’r wythnos ysbrydoledig hon ac a gyfrannodd at y sgyrsiau, y syniadau a’r partneriaethau newydd. 💙
Llywodraeth Cymru Addysg Cymru Eisteddfod yr Urdd