Rhagori

Rhagori

Share

Rhagori supports Welsh medium students at KS3, GCSE and A Level in Maths and Sciences by providing top quality tuition and revision sessions.

Mae Rhagori yn cefnogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn CA3, TGAU a Lefel A mewn Mathemateg a Gwyddorau drwy ddarparu

20/08/2026
19/08/2026
18/08/2026

Cyfle i ddefnyddio arbenigedd i enill a***n a cynnig cefnogaeth i ddysgwyr Cymraeg.

Os ydych yn athro, cyn-athro, Ol-raddedig, neu is-readdedig gallwch gofrestru am ddim i ddarganfod y cyfleoedd sydd ar gael.

Cyswllt yn y sylwadau👇

17/08/2026

Mae Rhagori mewn Gwyddoniaeth yn rhaglen grŵp TGAU ar-lein sy’n helpu dysgwyr i gryfhau eu dealltwriaeth, magu hyder a datblygu techneg arholiad — gyda uchafswm o 7 dysgwr ym mhob grŵp.

Rhagori mewn Gwyddoniaeth is an online GCSE group programme designed to build understanding, confidence and exam skills, with a maximum of 7 learners in each group.

👉 Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb / Find out more and register your interest:👇

13/08/2026
12/08/2026
02/08/2026

📣 Ydych chi’n siarad Cymraeg ac yn meddu ar wybodaeth dda am eich pwnc?

Mae Rhagori yn chwilio am diwtoriaid brwdfrydig a dibynadwy i gefnogi dysgwyr uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn chwilio’n arbennig am diwtoriaid:

➗ Mathemateg
🔬 Gwyddoniaeth
📚 A phynciau uwchradd eraill

Nid oes rhaid i chi fod yn athro cymwys. Mae gwybodaeth bynciol gadarn, Cymraeg rhugl a’r gallu i annog pobl ifanc yn hanfodol. Gall Rhagori ddarparu arweiniad i’r rhai sydd â llai o brofiad addysgu ffurfiol.

Mae cofrestru am ddim ac rydych chi’n cadw rheolaeth dros eich amserlen a’ch llwyth gwaith.

👉 Dysgwch ragor ac ymunwch â Rhagori:👇

Bydd angen cwblhau gwiriad DBS manwl, gwiriadau hunaniaeth a geirdaon cyn cael eich paru â dysgwyr. Gallwn helpu i drefnu gwiriad DBS os oes angen.

31/07/2026

💡 Awgrym i diwtoriaid: Peidiwch â rhuthro i roi’r ateb.

Pan fydd dysgwr yn cael trafferth, gall cwestiwn syml fod yn fwy defnyddiol na rhoi’r ateb yn syth:

➡️ “Beth wyt ti’n ei wybod yn barod?”
➡️ “Beth fyddai’r cam cyntaf?”
➡️ “Alli di egluro sut wnest ti gyrraedd yr ateb hwnnw?”

Mae rhoi amser i ddysgwr feddwl ac egluro ei resymu yn gallu meithrin dealltwriaeth, annibyniaeth a hyder.

Pa gwestiwn ydych chi’n ei ddefnyddio i helpu dysgwyr i feddwl?

29/07/2026

💬 Mae profiadau ein tiwtoriaid, rhieni a dysgwyr yn dweud llawer am gymuned Rhagori.

“Great tutoring, my daughter found it really helpful. I'll be using it again for Year 11.”

“Just brilliant. Totally turned my daughter around in physics. From one of her least favourites to now considering A Level.”

“Yn mwynhau y gwersi , bob sesiwn yn ddiddorol , dda iawn am weld yn syth beth tydy hi ddim wedi ei ddeall yn y gwersi ”

Rydym yn gweithio i greu profiad cefnogol a phroffesiynol i diwtoriaid, gan eu helpu i ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi dysgwyr cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Hoffech chi fod yn rhan o’r gymuned? 👇

27/07/2026

🌟 Hoffech chi ddefnyddio eich sgiliau i helpu pobl ifanc i lwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg?

Fel tiwtor gyda Rhagori, gallwch:

✅ Ddewis pryd rydych ar gael
✅ Rheoli faint o waith rydych yn ei dderbyn
✅ Gosod eich prisiau, gyda chyngor gennym ni
✅ Cael eich paru â dysgwyr cyfrwng Cymraeg addas
✅ Cael cymorth gyda threfnu sesiynau a rheoli taliadau

Mae cofrestru am ddim, heb unrhyw ffi ymlaen llaw.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan diwtoriaid Mathemateg a Gwyddoniaeth sy’n gallu addysgu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.

Tagiwch rywun fyddai'n diwtor arbennig! 💙

Want your school to be the top-listed School/college in Cardiff?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Telephone

Address


Cardiff

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm
Saturday 9am - 5pm