Coleg y Cymoedd

Directions Website Contact the school

Coleg y Cymoedd 📍 Aberdare • Nantgarw • Rhondda · Ystrad Mynach

Yn Gymraeg 👉 www.facebook.com/share/1DZD34DxRQ/

With over 9,000 learners across our campuses in Aberdare, Nantgarw, Rhondda and Ystrad Mynach, we're an education community making a real difference across Caerphilly County and Rhondda Cynon Taf. Working closely with employers, partners and Welsh Government, we champion lifelong learning, skills development and sustainable opportunity for our region. With industry-standard facilities and specialist staff, we prepare people for a changing world of work - and are proud to be a college of choice within the communities we serve.

19/10/2026

A little behind-the-scenes moment… 👀
Have you completed the Autumn Learner Survey yet?
It only takes 2 minutes to have your say! 🗣️
Check your college emails for the link 🔗

More from behind the mic coming soon… 🤫

---
Golwg fach ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni… 👀
Ydych chi wedi cwblhau Arolwg Dysgwyr yr Hydref eto?
Dim ond 2 funud mae'n ei gymryd i ddweud eich dweud! 🗣️
Gwiriwch eich e-byst coleg am y ddolen 🔗

Mwy o'r tu ôl i'r meicroffon yn dod yn fuan… 🤫

Digwyddiad Agored | Open Event  Wyt ti’n meddwl am dy gamau nesaf? 🤔 Rydyn ni yma i helpu! 💚 Dere i’n Digwyddiad Agored ...
16/10/2026

Digwyddiad Agored | Open Event

Wyt ti’n meddwl am dy gamau nesaf? 🤔 Rydyn ni yma i helpu! 💚

Dere i’n Digwyddiad Agored nesaf er mwyn darganfod ble gall dy ddyfodol dy arwain! ✨

P’un a oes gyda ti ddiddordeb mewn cyrsiau Safon Uwch, Addysg Uwch, astudio rhan amser neu gymwysterau galwedigaethol, mae gennym gyrsiau i dy helpu i gyflawni dy uchelgeisiau ar draws ystod eang o feysydd.

Dyma beth gelli di edrych ymlaen ato:
🤝 Cwrdd â’n tîm
📚 Archwilio ein cyrsiau
🚍 Darganfod mwy am gymorth ariannol a chymorth teithio
💜 Cwrdd â thîm Cymoedd Xtra ac archwilio’r cyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael

Wyt ti’n barod i gymryd y cam nesaf?

🎟️ https://www.eventbrite.com/e/coleg-y-cymoedd-open-event-04-november-2026-registration-2002283626226?aff=oddtdtcreator

Gobeithio dy weld yno 👀

---

Thinking about your next steps? 🤔 We’re here to help! 💚

Come along to our upcoming Open Event and discover where your future could take you! ✨

Whether you’re interested in A Levels, Higher Education, part-time study or vocational qualifications, we have courses to suit your ambitions across a wide range of sectors.

Here’s what you can look forward to:

🤝 Meet our team
📚 Explore our courses
🚍 Discover funding and travel support
💜 Meet our Cymoedd Xtra team and explore our extracurricular opportunities

Ready to take your next step?

🎟️ https://www.eventbrite.com/e/coleg-y-cymoedd-open-event-04-november-2026-registration-2002283626226?aff=oddtdtcreator

See you there 👀


Rydyn ni'n Recriwtio | We’re Hiring Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Cymorth Dysgu Ychwanegol i ymuno â ni yng Ngho...
15/10/2026

Rydyn ni'n Recriwtio | We’re Hiring

Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Cymorth Dysgu Ychwanegol i ymuno â ni yng Ngholeg y Cymoedd a helpu ein dysgwyr i ffynnu!

Os ydych chi'n angerddol am gefnogi dysgwyr, hyrwyddo cynhwysiant a helpu myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

📍 Rôl ar draws y campysau
💰 Graddfa 3
🕑 Yn ystod y tymor

Yn barod i wneud gwahaniaeth?

📲 Dysgwch fwy a gwnewch gais yma: https://ce0585li.webitrent.com/ce0585li_webrecruitment/wrd/run/etrec179gf.open?WVID=8779441bUU&LANG=CYM&VACANCY_ID=57865171eq

’nLlogi ’nTîm

---

We’re looking for two Additional Learning Support Assistants to join us at Coleg y Cymoedd and help our learners thrive!

If you’re passionate about supporting learners, promoting inclusion and helping students reach their full potential, we’d love to hear from you.

📍 Cross-campus role
💰 Scale 3
🕑 Term time

Ready to make a difference?

📲 Find out more and apply here: https://ce0585li.webitrent.com/ce0585li_webrecruitment/wrd/run/etrec179gf.open?WVID=8779441bUU&LANG=USA

📢 Galw ar bob dysgwr – Cael dweud dy ddweud! Mae ein dysgwyr wrth galon popeth a wnawn, a dyna pam mae eu barn, eu teiml...
14/10/2026

📢 Galw ar bob dysgwr – Cael dweud dy ddweud!

Mae ein dysgwyr wrth galon popeth a wnawn, a dyna pam mae eu barn, eu teimladau a’u safbwyntiau yn bwysig i ni. 💭

🗳️ Bob blwyddyn, rydym yn cynnal arolwg dysgwyr er mwyn casglu adborth a’i ddefnyddio i wella profiad y dysgwr.

Mae’r arolwg dysgwyr nawr ar agor tan 26 Hydref. Cer ati i gymryd rhan heddiw drwy’r ap myfyrwyr!

---

📢 Calling all learners – Have your say!

Our learners are at the heart of what we do, which is why their thoughts, feelings and opinions matter to us 💭

🗳️ Every year, we launch a learner survey so we can gather feedback and use this to improve the learner experience.

The learner survey is now open until 26 Oct - get involved via the student app today!

14/10/2026

Shwmaeee 👋

Mae’n Ddiwrnod Shwmae yng Ngholeg y Cymoedd heddiw! 💬🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
 
Psst… 👀 Wnest ti ddim clywed hyn gennym ni, ond os wyt ti’n archebu dy goffi yn Gymraeg, fe gei di ostyngiad! 🤫☕️
 
Bydd aelodau o dîm gwych y Gymraeg o gwmpas rhwng 12pm a 2pm i dy helpu i ymarfer dy Gymraeg! 🗣️ 
 
Dere am sgwrs, rho gynnig arni a chael ambell beth am ddim!
 
Felly, beth amdani? 🤔🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

—

It’s Diwrnod Shwmae at Cymoedd! 💬🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
 
Psst… 👀 You didn’t hear it from us... but order your coffee yn Gymraeg and you’ll get a discount! 🤫☕️
 
Our ffantastig Welsh team will also be around from 12pm–2pm to help you practise your Cymraeg! 🗣️ Pop by, have a go and grab yourself some freebies! 
 
So, beth amdani? 🤔🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Alumni ✨ Llongyfarchiadau mawr i'n cyn-fyfyrwyr Chloe Roblin a Megan Jones, sydd ill dwy wedi’u dewis ar gyfer carfan Me...
13/10/2026

Alumni ✨

Llongyfarchiadau mawr i'n cyn-fyfyrwyr Chloe Roblin a Megan Jones, sydd ill dwy wedi’u dewis ar gyfer carfan Merched Dan 21 Undeb Rygbi Cymru! 🏉✨

Mae cynrychioli Cymru ar lefel Dan 21 yn gamp arbennig, ac rydym yn hynod falch o weld y ddwy yn parhau i wneud eu marc yn y gêm.

Bellach yn parhau â'u hastudiaethau a'u gyrfaoedd rygbi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Loughborough, mae Chloe a Megan yn enghreifftiau gwych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy benderfyniad, ymrwymiad ac angerdd dros y gamp.

Yn ystod eu hamser yng Ngholeg y Cymoedd, manteisiodd y ddwy ar y cyfleoedd oedd ar gael iddynt, gan ddatblygu eu sgiliau, ennill profiad cystadleuol gwerthfawr ac adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer y camau nesaf yn eu taith rygbi 💚

Mae gweld Chloe a Megan yn symud ymlaen o ddatblygu eu gêm gyda ni yng Ngholeg y Cymoedd i gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yn ein hatgoffa'n union pam rydym mor falch o'r hyn rydym yn ei wneud 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏉

---

Huge congratulations to our alumni Chloe Roblin and Megan Jones who have both been selected for the The Welsh Rugby Union Women’s U21s squad! 🏉✨

Representing Wales at U21 level is a fantastic achievement, and we’re incredibly proud to see both players continuing to make their mark in the game.

Now continuing their studies and rugby careers at Cardiff Metropolitan University and Loughborough University, Chloe and Megan are fantastic examples of where determination, commitment and a passion for the game can take you.

During their time at Coleg y Cymoedd, both players made the most of the opportunities available to them, developing their skills, gaining valuable competitive experience and building the foundations for their next steps in rugby 💚

Seeing Chloe and Megan progress from developing their game with us at Cymoedd to representing Wales on the international stage, is what makes us proud to do what we do 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏉

Cardiff Met Sport - Chwaraeon Met Caerdydd | Loughborough Lightning Women's Rugby


🚀 Yn barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa? Darganfyddwch gyrsiau proffesiynol rhan amser sydd wedi’u cynllunio i hel...
13/10/2026

🚀 Yn barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?

Darganfyddwch gyrsiau proffesiynol rhan amser sydd wedi’u cynllunio i helpu unigolion a busnesau i dyfu!

P’un a ydych yn awyddus i sicrhau dyrchafiad, symud i faes newydd neu uwchsgilio eich tîm, mae astudio cymhwyster rhan amser yng Ngholeg y Cymoedd yn cynnig yr hyblygrwydd i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith a bywyd.

Mae llawer o’n cyrsiau rhan amser hefyd yn gymwys ar gyfer cyllid Cyfrif Dysgu Personol (PLA), sy’n golygu y gallech astudio AM DDIM os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd!

👉 Dewch o hyd i’ch cwrs a gwnewch gais heddiw: https://www.cymoedd.ac.uk/partneriaethau/commercial-courses/?lang=cy

---

🚀 Ready to take the next step in your career?

Discover part-time professional courses designed to help individuals and businesses grow!

Whether you're looking to secure a promotion, pivot into a new field, or upskill your team, studying a part-time qualification at Coleg y Cymoedd fits flexibly around your work and life commitments.

Many of our part-time courses are eligible for Personal Learning Account (PLA) funding too, meaning you could study FREE if you meet the eligibility criteria!

👉 Find your course and apply today: https://www.cymoedd.ac.uk/partnerships/commercial-courses/



Yr wythnos ddiwethaf, roeddem wrth ein bodd yn croesawu Zaynub Akbar AS a Rebecca Williams o'r Coleg Cymraeg Cenedlaetho...
13/10/2026

Yr wythnos ddiwethaf, roeddem wrth ein bodd yn croesawu Zaynub Akbar AS a Rebecca Williams o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i'n campws yn Nantgarw! 💚

Roedd yn bleser cael y cyfle i drafod sut mae'r Gymraeg yn cael ei phlethu drwy ein cwricwlwm, gan gyfoethogi profiadau dysgu ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc 🏫✨

---

Last week, we were delighted to welcome MS Zaynub Akbar and Rebecca Williams from Coleg Cymraeg Cenedlaethol to our Nantgarw campus! 💚

It was a pleasure to discuss how the Welsh language is woven throughout our curriculum, enriching learning across a range of subject areas 🏫✨

Cymoedd Xtra 💜✨Gwna'r mwyaf o dy brofiad ac amser yn y Coleg gyda Chymoedd Xtra! ✨ Mae bywyd coleg yn gymaint mwy na'r h...
12/10/2026

Cymoedd Xtra 💜

✨Gwna'r mwyaf o dy brofiad ac amser yn y Coleg gyda Chymoedd Xtra! ✨

Mae bywyd coleg yn gymaint mwy na'r hyn sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn unig.

Dyma pam mae cymryd rhan yng ngweithgareddau Cymoedd Xtra yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i dy daith yn y coleg:

👥 Cwrdd â ffrindiau newydd
🎯 Ymuno â chlybiau a chymdeithasau
🚀 Gwella dy CV
🧘 Cefnogi dy les a sicrhau cydbwysedd
💡 Rhoi cynnig ar rywbeth newydd

👉 Barod i gymryd rhan? Cer i hyb Cymoedd Xtra ar dy gampws i weld beth sydd ymlaen yr wythnos hon!

---
✨ Make the most of your college experience with Cymoedd Xtra! ✨

College life is about so much more than just what happens inside the classroom.

Here's why getting involved with Cymoedd Xtra is a game changer for your journey at college:

👥 Meet new friends
🎯 Join clubs and societies
🚀 Level up your CV
🧘 Wellbeing and balance
💡 Try something new

👉 Ready to get involved? Head to the Cymoedd Xtra hub on your campus to see what’s on this week!

Newyddion | NewsLlongyfarchiadau mawr i’n cyn-fyfyrwraig, Casi Gregson, ar arwyddo ei chytundeb proffesiynol cyntaf gyda...
09/10/2026

Newyddion | News

Llongyfarchiadau mawr i’n cyn-fyfyrwraig, Casi Gregson, ar arwyddo ei chytundeb proffesiynol cyntaf gyda Newcastle United! ⚽️👏

Astudiodd Casi y Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd, ac roedd hi hefyd yn un o’n hysgolheigion Rhaglen Gyrfa Ddeuol TASS.

Yn ystod ei chyfnod yng Nghymoedd, rhagorodd Casi yn academaidd wrth gydbwyso gofynion pêl-droed elît – gan gynnwys ei hymrwymiadau rhyngwladol gyda thîm dan-19 Cymru – gyda chefnogaeth ein rhaglen Gyrfa Ddeuol TASS.

Rydyn ni'n hynod falch o weld Casi yn cymryd y cam cyffrous nesaf hwn yn ei gyrfa bêl-droed.
Llongyfarchiadau, Casi! 🏆👏

---

Huge congratulations to our alumna, Casi Gregson, on signing her first professional contract with Newcastle United! ⚽️👏

Casi studied the BTEC Level 3 National Extended Diploma in Sport at Coleg y Cymoedd and was also one of our TASS Dual Career scholars.

During her time at Cymoedd, Casi excelled academically while balancing the demands of elite football, including her international commitments with Wales U19s, supported by our TASS Dual Career programme.

We’re incredibly proud to see Casi take this exciting next step in her football career.
Llongyfarchiadau, Casi! 🏆👏

Address

Coleg Y Cymoedd
Nantgarw
CF157QY

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Coleg y Cymoedd posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The School

Send a message to Coleg y Cymoedd:

Shortcuts

Share

Category