Cardiff University School of Earth and Environmental Sciences

Cardiff University School of Earth and Environmental Sciences We offer research-led degree programmes spanning the breadth of the Earth and environmental sciences.

Our subjects include environmental geography, environmental geoscience, geology, exploration and resource geology, and marine geography. Earth and environmental science education at Cardiff provides a research-led, holistic view of the Earth in which the oceans, atmosphere, biosphere and lithosphere are studied in depth as integral components of our Earth's system. We are located within close proximity to a variety of different environments which are ideal for exploring the complexities of the Earth and oceans. In studying with us, you can make the most of the incredible surrounding countryside and ocean landscapes whilst benefitting from all the conveniences that Cardiff, the capital city of Wales, can offer.

Ddim yn hir nawr nes y byddwn yn croesawu ein holl fyfyrwyr yn ôl, a gobeithio eu bod wedi cael haf gwych! 👋👋Mae ein myf...
25/09/2026

Ddim yn hir nawr nes y byddwn yn croesawu ein holl fyfyrwyr yn ôl, a gobeithio eu bod wedi cael haf gwych! 👋👋

Mae ein myfyriwr ail flwyddyn, Sonny Hopkins, wedi rhannu ei brofiadau o haf anhygoel yn cynorthwyo gyda gwaith ymchwil dŵr ym Montréal:

"Am haf ym Montréal! Diolch i Polytechnique Montréal a Maria Prieto-Espinoza am fy nerbyn ar yr interniaeth hon ac am yr holl brofiad rydw i wedi’i ennill o ganlyniad iddi.

Dros y pedwar mis diwethaf, rydw i wedi bod yn Adran Geological and Civil Engineering Polytechnique Montréal, yn gweithio o fewn grŵp Maria ar nifer o brosiectau ymchwil sy’n canolbwyntio ar hydroddaeareg halogion. Mae hyn wedi cynnwys llawer iawn o waith labordy (a oedd yn gwbl newydd i mi) yn ogystal â rhywfaint o waith maes. Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio offer arbenigol yn y labordy ac yn y maes, a magu hyder wrth eu defnyddio.

Un o’m prif amcanion yn ystod yr interniaeth hon oedd cynorthwyo gyda phrosiect ymchwil sy’n ceisio deall sut mae’r plaladdwr metribuzin yn rhyngweithio â dŵr wyneb a dŵr daear. Fe wnaethom ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau labordy i asesu sut mae’n diraddio yn yr amgylchedd, a chasglu samplau o bridd a dŵr wyneb yr oeddem yn amau eu bod wedi’u halogi er mwyn eu profi.

Rydw i’n drist iawn i fod yn ffarwelio â Montréal, Québec a’r holl bobl anhygoel rydw i wedi’u cyfarfod yma. Byddaf yn gweld eisiau bywyd yma, gan fy mod yn gadael gyda rhai atgofion gwych. Rydw i’n edrych ymlaen nawr at y bennod nesaf, lle byddaf yn ymgymryd â Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol gyda Network Rail gan ddechrau fis Hydref.

Diolch i Kate Czyrko am helpu i drefnu hyn."

Not long now until we welcome back all of our students from what we hope has been a great summer! 👋👋Our student, Sonny H...
25/09/2026

Not long now until we welcome back all of our students from what we hope has been a great summer! 👋👋

Our student, Sonny Hopkins, has shared his experiences from an incredible summer assisting with water research in Montreal:

"What a summer in Montreal! Thank you to Polytechnique Montréal and Maria Prieto-Espinoza for taking me in on this internship and for all the experience I’ve gained from it.

For the past four months I have been in Polytechnique Montreal’s Geological and Civil Engineering Department, working within Maria’s group on a number of research projects focussed on contaminant hydrogeology. This has involved a great deal of lab work (which was completely new to me) and some field work also. It has been great to have the opportunity to learn and get comfortable with using specialist lab and field equipment.

One of my main objectives in this internship was to assist on a research project aiming to understand how the pesticide, metribuzin, interacts with surface and groundwaters. We used a variety of lab techniques to assess how it degrades within the environment and collected some soil and surface water we suspected to be contaminated to test on.

I am very sad to be saying goodbye to Montreal, Quebec and all the amazing people I’ve met here. I will miss life here as I am leaving with some great memories. I’m excited now for the next chapter where I will be undertaking a PPY with Network Rail starting this October.

Thank you to Kate Czyrko for helping organise this.

We have some incredible locations across Wales where our students can complete their mapping for dissertation research, ...
22/09/2026

We have some incredible locations across Wales where our students can complete their mapping for dissertation research, as well as building essential resilience for future fieldwork.

Hear from Hollie Ellicott, a second-year Environmental Geoscience student, who recently completed her own research: "Last month, I completed 10 days of independent geological mapping in and around Cwm Idwal, North Wales, as part of my dissertation mapping project with Cardiff University’s School of Earth and Environmental Sciences.

Along with my field partners, we explored an area largely affected by volcanic activity, folding and glacial erosion, which formed the Idwal syncline, which we were able to map in detail.

During this project, we were able to recognise sedimentary and volcanic units, as well as geomorphological features, distinguish between various units of volcanic tuff and identify the hinge of the Idwal syncline.

What a great opportunity to put into practice the fieldwork skills I have developed during my first two years at Cardiff University, in challenging terrain and during an intense UK heatwave."

Mae gennym rai lleoliadau anhygoel yng Nghymru lle gall ein myfyrwyr gwblhau eu gwaith mapio ar gyfer eu hymchwil i’w tr...
22/09/2026

Mae gennym rai lleoliadau anhygoel yng Nghymru lle gall ein myfyrwyr gwblhau eu gwaith mapio ar gyfer eu hymchwil i’w traethodau hir, yn ogystal â meithrin y gwydnwch hanfodol sydd ei angen ar gyfer gwaith maes yn y dyfodol.

Clywch gan Hollie Ellicott, myfyrwraig Geowyddorau Amgylcheddol yn ei hail flwyddyn, a gwblhaodd ei gwaith ymchwil ei hun yn ddiweddar: “Y mis diwethaf, cwblheais 10 diwrnod o waith mapio daearegol annibynnol yng Nghwm Idwal a’r cyffiniau yng Ngogledd Cymru, fel rhan o’m prosiect mapio ar gyfer fy nhraethawd hir gydag Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd.

Ynghyd â’m partneriaid maes, buom yn archwilio ardal sydd wedi’i heffeithio’n sylweddol gan weithgarwch folcanig, plygu ac erydiad rhewlifol, a ffurfiodd synclin Idwal, y bu modd i ni ei fapio’n fanwl.

Yn ystod y prosiect hwn, roeddem yn gallu adnabod unedau gwaddodol a folcanig yn ogystal â nodweddion geomorffolegol, gwahaniaethu rhwng gwahanol unedau twff folcanig a nodi colfach synclin Idwal.

Am gyfle gwych i ymarfer y sgiliau gwaith maes rwyf wedi’u datblygu yn ystod fy nwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn tirwedd heriol ac yn ystod ton wres ddwys yn y DU.”

Rydyn ni’n teimlo’n hynod lwcus bod gwaith ymchwil ein myfyrwyr ar gyfer eu traethodau hir yn gallu edrych fel hyn.... ⛰...
22/09/2026

Rydyn ni’n teimlo’n hynod lwcus bod gwaith ymchwil ein myfyrwyr ar gyfer eu traethodau hir yn gallu edrych fel hyn.... ⛰️🏞️⛅

Dywedodd ein myfyriwr, Nathan Eagle: “Yr haf hwn, cwblheais waith mapio Antyclin Capel Curig yng Ngogledd Cymru ar gyfer fy nhraethawd hir mewn daeareg.

Yn ffodus, roedd y tywydd o’n plaid gan amlaf, felly cefais gyfle i brofi Gogledd Cymru yn ei holl ogoniant, gyda haul llachar a’r gwelededd gorau posibl o dirwedd ddaearegol amrywiol Parc Cenedlaethol Eryri.

Roedd yn her bleserus cael mapio’n annibynnol am y tro cyntaf, er gwaethaf y crafiadau a’r creithiau a gefais ar ôl treulio cymaint o amser yn brwydro drwy fôr diddiwedd o fieri! Rwy’n edrych ymlaen at yr heriau newydd y byddaf yn ymgymryd â nhw yn y dyfodol.

Dros y misoedd nesaf, byddaf yn defnyddio fy map i lunio adroddiad manwl am ddaeareg yr ardal a sut y daeth yr ardal i fod fel y mae heddiw, fel cam nesaf yn fy nhaith gyda’r traethawd hir.”

Ewch i’n gwefan i ddysgu mwy am ein graddau mewn geowyddorau a sut y gallwch droi eich cariad at yr awyr agored yn astudiaethau sy’n rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth amgylcheddol sy’n edrych i’r dyfodol."

We consider ourselves incredibly lucky that our students' dissertation research can look like this! Our student, Nathan ...
22/09/2026

We consider ourselves incredibly lucky that our students' dissertation research can look like this!

Our student, Nathan Eagle, shared: This summer, I completed mapping the Capel Curig Anticline in North Wales for my geology dissertation.

Luckily, the weather was on our side for the most part so I got to experience North Wales with full sun and maximum visibility of the geologically diverse Eryri National Park.

It was an enjoyable challenge to map independently for the first time (despite the scratches and scars from the endless sea of brambles) and I'm looking forward to the future challenges I get to take on next. The next few months I will be using my map to construct a detailed report about the geology of the area and how it came to be as the next part of my dissertation journey.

Head to our website to discover more about our geoscience degrees and how you can turn your love of the outdoors into studies which emphasise future-focused environmental leadership.

Mae’n wych croesawu ein myfyrwyr Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol yn ôl, yn enwedig pan fo myfyrwyr fel Esme Boden wedi en...
22/09/2026

Mae’n wych croesawu ein myfyrwyr Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol yn ôl, yn enwedig pan fo myfyrwyr fel Esme Boden wedi ennill cymaint o sgiliau a phrofiadau newydd yn ystod eu blwyddyn ar leoliad!

Dywedodd Esme:

“Alla i ddim credu bod blwyddyn wedi mynd heibio! Rwyf wedi dysgu cymaint yn ystod fy lleoliad gwaith gyda thîm yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd (tîm E&S) yn The Bristol Port Company.

Mae bod yn rhan o dîm E&S wedi bod yn brofiad hynod werth chweil – rwy’n ddiolchgar iawn am yr amrywiaeth o brofiadau, y gwahanol brosiectau y cefais gyfle i weithio arnynt, a’r bobl y cefais y fraint o weithio gyda nhw. Drwy gydol fy lleoliad, cefais gyfle i ddysgu am amrywiaeth eang o bynciau yn y sector amgylcheddol, o gynnal arolygon ecolegol i adroddiadau SECR ac i’r broses o wneud cais cynllunio.

Does dim modd i mi roi popeth y gwnes i dros y flwyddyn ddiwethaf mewn geiriau, felly dyma bump o’r uchafbwyntiau:

📊 Adrodd ar y Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni (ESOS)

🚗 Ymgyrch yn erbyn segura cerbydau – gweithio ar draws gwahanol adrannau i ddatblygu a lansio ymgyrch fewnol a oedd yn canolbwyntio ar leihau segura cerbydau, lleihau cyflymder gormodol ac annog gwefru cerbydau hybrid.

🎤 Siarad yn gyhoeddus – drwy gydol y flwyddyn, rhoddais gyflwyniadau i amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Business West a SevernNet.

⛴️ Samplu benthos a gwaddodion.

🚴‍♀️ Beicio cymdeithasol – ni allwn anghofio sôn am y teithiau beicio cymdeithasol a drefnais ar y cyd â Marnie!

Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr am fod mor groesawgar a chefnogol drwy gydol y flwyddyn. Yn benodol, diolch i Anne Hayes a Lucy Taylor am eich arweiniad, eich cefnogaeth a’ch gwybodaeth helaeth.

Hoffwn hefyd ddiolch i Earth & Environmental Sciences, a Marie Paine am eu holl gymorth gyda’m cais am leoliad. Roedd eu cefnogaeth barhaus yn fy helpu i ddyfalbarhau, hyd yn oed pan oeddwn yn wynebu rhwystrau yn ystod y broses.”

Great to welcome back our Professional Placement Year students back, especially when, like Esme Boden, they've acquired ...
22/09/2026

Great to welcome back our Professional Placement Year students back, especially when, like Esme Boden, they've acquired so many new skills and experiences!

Esme shared: "I can’t believe it’s been a year! I’ve learnt so much during my work placement within the Environment and Sustainability team (E&S team) at The Bristol Port Company.

Being a part of the E&S team has been incredibly fulfilling - I am very grateful for the range of experiences, different projects I’ve been involved in and the people I have had the privilege of working with. Throughout my time on placement I was lucky enough to learn about a wide variety of topics within the environmental sector, ranging from ecological surveys to SECR reporting to the planning application process.

I can’t put into words everything that I got up to over the past year, so here are just five highlights;

📊 ESOS (Energy Savings Opportunity Scheme) reporting

🚗 Idling campaign - working across departments to develop and launch an internal campaign that focused on reducing vehicle idling, speeding and encourage hybrid vehicle charging.

🎤 Public speaking - throughout the year I gave presentations to various organisations, including Business West and SevernNet

⛴️ Benthic and sediment sampling

🚴‍♀️Social cycle - I couldn’t forget to mention the social cycles that I organised alongside Marnie!

I would like to thank my colleagues for being so welcoming and supportive throughout the year. In particular, thank you to Anne Hayes and Lucy Taylor for your guidance, support and extensive knowledge.

I’d also like to thank Earth & Environmental Sciences and Marie Paine for all of their help with my placement application, their continued support helped me to persevere even when I faced setbacks during the process."

Congratulations to Lindsey Axe on her 40th publication as co-author, coinciding with 40 years at Cardiff University!We w...
11/09/2026

Congratulations to Lindsey Axe on her 40th publication as co-author, coinciding with 40 years at Cardiff University!

We wish Lindsay the very best in her retirement and thank her for sharing her time and expertise with us.

_______________________________________________________________

Llongyfarchiadau i Lindsey Axe ar ei 40fed cyhoeddiad fel cyd-awdur, sy’n cyd-fynd â 40 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd!

Dymunwn y gorau un i Lindsey ar ei hymddeoliad, a hoffem ddiolch iddi am rannu ei hamser a’i harbenigedd gyda ni.

Rydym wrth ein boddau i groesawu ein myfyrwyr ar leoliadau proffesiynol yn ôl, fel Katy Huggett, i Earth & Environmental...
10/09/2026

Rydym wrth ein boddau i groesawu ein myfyrwyr ar leoliadau proffesiynol yn ôl, fel Katy Huggett, i Earth & Environmental Sciences ar gyfer eu blwyddyn olaf, gyda gwybodaeth newydd a hyder ar ôl blwyddyn yn y diwydiant.

Rhannodd Katy y neges hon am ei lleoliad:

Ar ddiwedd mis Gorffennaf, cwblheais fy lleoliad 12 mis fel Syrfëwr Hydrograffig a Charthu Israddedig gyda Peel Ports Group yn Lerpwl – ac am brofiad anhygoel!

Dros y flwyddyn, dysgais sut i:

- Sefydlu Teledyne PDS ar fwrdd ein llong yn barod ar gyfer casglu data.
- Gasglu data bathymetrig ar fwrdd gan ddefnyddio seinyddion adleisio aml-drawst ac un-drawst.
- Golygu, glanhau a phrosesu’r data bathymetrig a gasglwyd gan ddefnyddio Caris Hips and Sips.
- Creu siartiau o’r data gan ddefnyddio CadCorp Map Modeller.
- Dosbarthu siartiau ar draws y porthladd i’r cwsmeriaid perthnasol.
- Gweithredu a chasglu data bathymetrig gan ddefnyddio ‘Fitzroy’, llong arolygu ddi-griw (USV) y porthladd.
- Deall pwysigrwydd sylwi ar newidiadau mewn dyfnder yn afon brysur Mersi, a sut mae ymgyrchoedd carthu yn helpu i fynd i’r afael â’r newidiadau hyn.

Diolch yn arbennig i Lisa Reilly a Lydia Crampton am y llu o oriau a dreuliasant yn fy helpu gyda hyn!

Enillais hefyd sawl cymhwyster, gan gynnwys Hyfforddiant Diogelwch Personol STCW, ENG1, Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Ysgolion Peilot, Cymorth Cyntaf MST/STCW a Radio Morol VHF. Edrychaf ymlaen at ddefnyddio’r rhain mewn rolau yn y dyfodol.

Mae’r lleoliad, yn ei gyfanrwydd, nid yn unig wedi datblygu fy sgiliau ym maes arolygu hydrograffig, ond hefyd wedi rhoi mwy o hyder i mi wrth weithio mewn amgylchedd proffesiynol. Mae wedi gwella fy ngallu i weithio fel rhan o dîm, rheoli llwyth gwaith ac, yn gyffredinol, wedi bod yn gyfle enfawr ar gyfer fy natblygiad personol a phroffesiynol – rhywbeth rwy’n hynod ddiolchgar amdano.

Hoffwn hefyd ddiolch i Earth & Environmental Sciences, ac yn enwedig i Marie Paine, am yr holl gefnogaeth, o’m cais cychwynnol hyd at ddiwedd fy lleoliad.

Address

Cardiff
CF103AT

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cardiff University School of Earth and Environmental Sciences posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share