31/08/2026
Tyrd am dro ar daith hyfryd yn Nyffryn Maentwrog i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg.
Mi fyddwn yn cerdded o'r Oakley Arms drwy'r goedwig dderw hynafol at blasty hanesyddol Y Dduallt. Mi fyddwn yn pasio bwthyn hynod Coed y Bleiddiau. Os bydd awydd mi awn ymlaen at orsaf Y Dduallt ar Reilffordd Ffestiniog.
Tua 3.5 milltir fydd y daith; bydd y llwybr yn arw mewn rhai llefydd.
Mi fyddai yn hyfryd cael dy gwmni. Tyrd hefo ni. Anfona e-bost: [email protected] i gadw lle.
sgwrsio - chat / conversation
coedwig dderw - oak woodland
plasty hanesyddol - ancient manor house
bwthyn hynod - remarkable cottage
awydd - want to@
Cymraeg Meirionnydd Hwb Cymraeg Dwyfor Learn Welsh North West / Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin