Ysgol Addysg Prifysgol Bangor - School of Education Bangor University

Ysgol Addysg Prifysgol Bangor - School of Education Bangor University

Share

Croeso i dudalen Ysgol Addysg Gogledd Cymru -Prifysgol Bangor
Welcome to the North Wales School of Education -Bangor University page

Photos from Ysgol Addysg Prifysgol Bangor - School of Education Bangor University's post 22/06/2026

Hyfforddiant staff ar Cynefin a Llais y Disgybl yn Ysgol Llanedeyrn. Diolch am y croeso a’r tywydd braf! Staff training on Cynefin and Pupil Voice today in Ysgol Llanedeyrn. Thanks for the welcome and the weather 😀🥵☀️

Toy Story 5: ‘Does dim eisiau bod ofn technoleg’ 14/06/2026

Mae Donna Dixon, darlithydd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn trafod plant a thechnoleg i Newyddion S4C.
Childhood and Youth studies lecturer Donna Dixon discussed technology and children with S4C News.

Toy Story 5: ‘Does dim eisiau bod ofn technoleg’ Mae arbenigwraig wedi annog rhieni i beidio â gweld technoleg a theganau traddodiadol fel dau beth sy’n gwrthwynebu ei gilydd, wrth i rag-ddangosiad gala o Toy

Photos from Ysgol Addysg Prifysgol Bangor - School of Education Bangor University's post 09/06/2026
Photos from Ysgol Addysg Prifysgol Bangor - School of Education Bangor University's post 09/06/2026

Braf cael croesawu myfyrwyr o Golegau Menai a Meirion Dwyfor i sgwrsio am ein cyrsiau.
Great to welcome students from Menai and Meirion Dwyfor Colleges to chat about our courses.

Photos from Ysgol Addysg Prifysgol Bangor - School of Education Bangor University's post 02/06/2026

Bore braf yn sgwrsio am ein cyrsiau hefo myfyrwyr Coleg Cambria (a chwarae ychydig hefo Lego!) Diolch am y croeso cynnes 🤩A lovely morning chatting to Coleg Cambria Students about our courses (and playing with Lego a bit!) Thanks for the warm welcome 🤩

Photos from Ysgol Addysg Prifysgol Bangor - School of Education Bangor University's post 29/05/2026

Diolch i 5 o fyfyrwyr bl 1 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid am gynllunio, paratoi a chynnal gweithgareddau i blant a phobl ifanc yn stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Da iawn genod am eich brwdfrydedd, creadigrwydd a’ch cydweithio 👏 / Thanks to 5 1st year CYS students for planning and organising all the events for children and young people at the Bangor University stand at the Eisteddfod Yr Urdd this year. Your enthusiasm, creativity and willingness to work as a team were excellent 👍

25/05/2026

Dewch am sgwrs neu weithgaredd hefo’r criw Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid sy’n gweithio yn Eisteddfod yr Urdd wythnos yma ar stondin . Come for a chat or activities with the Childhood and Youth Studies students working on the stand this week 😀

22/05/2026
21/05/2026

Profiad Cari, un o'n cyn-fyfyrwyr ar y cwrs Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Mi wnes i raddio yn 2025 ac yna penderfynais ddilyn cwrs blwyddyn TAR Cynradd gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol ym Mhrifysgol Bangor.
Roeddwn i wedi gweithio fel cymhorthydd llanw mewn ysgol arbennig ac roedd gen i ddiddordeb mawr yn y maes ADY. Fe wnaeth y profiad o fod yn gymhorthydd greu awydd ynof i weithio fel athrawes ADY. Yn ystod y cwrs rwyf wedi bod ar leoliad mewn ysgolion ac wedi gweld yr argraff mae athrawon yn ei gael ar ddisgyblion sydd efo anghenion dysgu ychwanegol.
Y peth gorau am y cwrs TAR Cynradd gydag ADY oedd y cyfleoedd i weld ysgolion arbennig yn lleol i Fangor. Ers i mi gychwyn ym mis Medi, rwyf wedi ymweld â thair ysgol arbennig ac mae pob un wedi dysgu pethau gwahanol i mi. Mae'r profiad wedi bod yn werthfawr ac yn agoriad llygaid.
Peth arall sydd wedi bod yn anhygoel am y cwrs yw y cyd-fyfyrwyr. Mae'r genod sydd ar y cwrs wedi bod yn gret ac rydan ni wedi cefnogi ein gilydd trwy gyfnodau da a ddim mor dda.
Rwyf newydd gael fy mhenodi i swydd athrawes ADY yn Ysgol Hafod Lon. Rwyf mor ddiolchgar am gael cynnig y swydd ac rwyf yn edrych ymlaen at gefnogi’r disgyblion yno yn y dyfodol.

Da iawn Cari. Mor falch dy fod ti wedi gweithio'n galed ac wedi llwyddo. Pob dymuniad da iti yn dy swydd newydd.
Prifysgol Bangor Stiwdio Gyrfaoedd, Prifysgol Bangor Cari Hâf Jones

Want your school to be the top-listed School/college in Bangor?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Address


Athrolys, Ffordd Y Coleg
Bangor
LL572DG