16/11/2022
Roedd hi'n braf iawn croesawu rhai o gynorthwywyr dosbarth y cwrs Uwch yn ôl am ddiwrnod dilyniant heddiw. Llongyfarchiadau i bawb ar gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus!
Mae Canolfan Bedwyr yn darparu nifer o gyrsiau gloywi i'ch helpu i ddod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Ydych chi'n ansicr neu'n ddihyder pan fydd angen i chi ysgrifennu yn Gymraeg? Ydych chi'n ansicr o'r cywair neu'r ieithwedd briodol wrth siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg? Ydych chi'n teimlo nad yw eich Cymraeg chi'n 'ddigon da'? Os mai 'ydw' oedd eich ateb i unrhyw un o'r cwestiynau yma, yna mae'n debyg y byddai cwrs Gloywi Iaith yn ddefnyddiol i chi. Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu darparu ar gyfer:
16/11/2022
Roedd hi'n braf iawn croesawu rhai o gynorthwywyr dosbarth y cwrs Uwch yn ôl am ddiwrnod dilyniant heddiw. Llongyfarchiadau i bawb ar gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus!
06/02/2019
Diwrnod hwyliog heddiw efo'r criw bywiog yma o gynorthwywyr dosbarth, oedd yn ôl efo ni ar ddiwrnod dilyniant y cwrs uwch sabothol.
10 diwrnod i fynd tan 15/02 - dyddiad cau'r cwrs uwch i athrawon a chynorthwywyr
31/01/2019
DYDDIAD CAU / CLOSING DATE: 15.02.19
Yn galw ar athrawon a chynorthwywyr dosbarth gogledd Cymru! Mae dyddiad cau cofrestru i ddod ar gwrs Uwch nesaf y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn agosáu. Cwrs 20 diwrnod dros dri mis ym Mhrifysgol Bangor, Ebrill-Gorffennaf 2019, er mwyn datblygu eich sgiliau Cymraeg. Ar gyfer athrawon (cynradd ac uwchradd) a chynorthwywyr dosbarth (iaith gyntaf neu ail iaith) sy’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n eithaf rhugl. Bydd Llywodraeth Cymru'n talu am y cwrs, cyflenwi a chostau teithio. Lle i 14 yn unig. Holwch athrawon ymgynghorol eich sir am wybodaeth bellach, neu cysylltwch â ni: [email protected] neu 01248 383293.
Calling teachers and classroom assistants from all over north Wales! The closing date to apply for the next Welsh Language Sabbatical Scheme Higher-level course is almost upon us. A 20 day course held over 3 months at Bangor University, April-July 2019, to develop your Welsh-language skills. Open to teachers (primary & secondary) and classroom assistants (1st and 2nd language speakers) who are fluent or comparatively fluent speakers. The course, supply costs & travelling expenses will be paid for by the Welsh Government. Just 14 places available. Ask you county advisory teachers for more information, or contact us directly: [email protected] or 01248 383293.
08/08/2018
Roedd yn ddiwrnod o ddathlu i nifer o'n myfyrwyr heddiw, wrth iddyn nhw dderbyn eu Tystysgrifau Sgiliau Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn eu plith roedd Mary Williams, a enillodd y Dystysgrif gyda Rhagoriaeth. Bu Mary ar ein cwrs uwch sabothol rai blynyddoedd yn ôl. Un arall a fu ar ein cwrs uwch i athrawon a darlithwyr ydi Tim Heeley - enillydd Medal y Cerddor. Llongyfarchiadau enfawr gan bawb yng Nghanolfan Bedwyr!
04/07/2018
Tiwtoriaid a rhai o aelodau cwrs uwch i gynorthwywyr dosbarth yn cefnogi Ras yr Iaith ym Mangor heddiw.
18/10/2017
Mae dyddiad cau ein cwrs Uwch i gymorthyddion dosbarth siroedd Conwy a Dinbych bron yma! Anfonwch e-bost at: [email protected] am ffurflen gais.
12/05/2017
WYTHNOS i fynd tan ddyddiad cau cwrs Uwch nesaf y Cynllun Sabothol yn Llaneurgain, Medi-Rhagfyr 2017. 20 diwrnod dros dri mis. Ar gyfer athrawon (cynradd ac uwchradd) a darlithwyr Addysg Bellach o bob rhan o Ogledd Cymru (iaith gyntaf neu ail iaith). Bydd Llywodraeth Cymru'n talu am y cwrs, cyflenwi a chostau teithio. Lle i 14 yn unig. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach: [email protected] neu 01248 383293.
Just ONE WEEK to go until closing date for Welsh Language Sabbatical Scheme Higher-level course in Northop, September-December 2017. 20 day course held over 3 months. Open to teachers (primary & secondary) and FE lecturers from all over North Wales (1st and 2nd language speakers). Course, supply & travelling expenses paid for by the Welsh Government. Just 14 places available. Contact us for more info: [email protected] or 01248 383293.
Cyrsiau i staff a myfyrwyr ôl-radd Prifysgol Bangor
Ym misoedd Ebrill - Mai 2017, bydd Canolfan Bedwyr yn cynnig dau gwrs undydd i helpu staff a myfyrwyr ôl-radd PB i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.
Byddwn yn cynnal y cyrsiau rhwng 9.30 - 4.30 ar 27 Ebrill a 3 Mai.
Mae’r cyrsiau’n addas ar gyfer Cymry Cymraeg a dysgwyr rhugl.
Bydd te, coffi a chinio ysgafn ar gael.
Cwrs 27 Ebrill - ar gyfer pobl sydd ddim wedi bod ar gyrsiau gloywi iaith o’r blaen:
Cwrs i’ch helpu gyda’r elfennau hyn:
• ysgrifennu Cymraeg naturiol a chlir ac osgoi dylanwad patrymau Saesneg
• sillafu a gwallau cyffredin
• treigladau
• defnyddio’r berfau
• cyflwyniad i ddefnyddio ‘Cysgliad’ - offer cywiro iaith cyfrifiadurol.
Cwrs 3 Mai - ar gyfer pobl sydd wedi bod ar gyrsiau gloywi iaith o’r blaen:
Gweithdy ymarferol fydd yn edrych ar yr elfennau hyn:
• defnyddio ffynonellau (sources) Cymraeg a Saesneg
• ymarfer sgiliau iaith defnyddiol e.e. crynhoi a thrawsieithu
• ysgrifennu Cymraeg naturiol a chlir drwy edrych ar rai o egwyddorion sylfaenol Cymraeg Clir
• adolygu’r elfennau iaith arferol e.e. sillafu, treigladau, gwallau cyffredin a defnyddio’r berfau.
Anfonwch e-bost at y tiwtoriaid: [email protected] i gael mwy o wybodaeth. Bydd angen i chi gofrestru erbyn dydd Mercher, 12 Ebrill 2017.
Adduned Blwyddyn Newydd? Cyrsiau sgiliau Cymraeg i staff Prifysgol Bangor gan Ganolfan Bedwyr ar 10 a 12 Ionawr 2017. Manylion: [email protected].
New Year’s Resolution? Welsh Improvement courses for Bangor University staff run by Canolfan Bedwyr on 10 and 12 January 2017. Details: [email protected]
13/04/2016
Diwrnod 3 cwrs byr y Cynllun Sabothol, ac mae'r athrawon a'r darlithwyr hyn yn brysur yn ysgrifennu. Mae'r wythnos gyntaf wedi mynd yn dda, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weddill y cwrs.
21/01/2016
Mae’r dyddiad cau'n agosáu! Mae rhai llefydd ar ôl ar y cwrs uwch nesaf i athrawon a darlithwyr. Cysylltwch am fanylion.
Hurry, closing date soon! A few places still available on the next higher-level course for North Wales teachers and lecturers. Contact us for details.