Techiaith Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau iaith ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog. cwmwl_geiriau_glaswyrdd_fflatMae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill. Mae’n gwneud gwaith safoni termau, a hefyd wedi datblygu geiriaduron electronig ar CD ac ar y we. Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we. Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith. Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).

04/08/2026
03/08/2026
03/08/2026

Llongyfarchiadau mawr i'n prif beiriannydd meddalwedd, Dewi Bryn Jones, ar dderbyn y wisg wen heddiw. Dewi oedd enillydd Y Fedal Wyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.

Warmest congratulations to Dewi Bryn Jones, our chief software developer, on being awarded the white robes at the Eisteddfod today. Dewi won the Eisteddfod's Science and Technology Medal at last year's event in Wrecsam.

Ar y cyntaf o Awst, bydd Canolfan Bedwyr yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau maw...
16/07/2026

Ar y cyntaf o Awst, bydd Canolfan Bedwyr yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau mawr a mân drwy gydol 2026-27 i nodi'r pen-blwydd ac i hyrwyddo ein gwaith, yn cynnwys rhai datblygiadau newydd. Am fwy o fanylion, daliwch ati i'n dilyn.

On the 1st of August, Canolfan Bedwyr will be celebrating its 30th anniversary. During 2026/27, we will be hosting a number of events to note this landmark and to promote our work, including some new developments. For further details, please follow our social media accounts.

Ar y diwrnod y derbyniodd radd DSc er anrhydedd gan y Brifysgol, pleser oedd croesawu'r arloeswr ym maes Deallusrwydd Ar...
11/07/2026

Ar y diwrnod y derbyniodd radd DSc er anrhydedd gan y Brifysgol, pleser oedd croesawu'r arloeswr ym maes Deallusrwydd Artiffisial, Llion Jones, i'r ganolfan heddiw. Cafodd gyfle i glywed am ein gwaith ym maes technolegau iaith a rhannu ei syniadau yntau am gyfeiriadau y datblygiadau nesaf.

On the day that he received an honorary DSc degree from the University, it was a pleasure to welcome AI pioneer, Llion Jones, to Canolfan Bedwyr today. He had the opportunity to hear about our work in the field of language technologies and share his own ideas on the direction of future developments.

19/06/2026

A allai Deallusrwydd Artiffisial danseilio ieithoedd llai yn ddifrifol? Yn rhifyn diweddaraf ein blog, mae Gareth Watkins yn esbonio sut mae cynnwys a gynhyrchir gan AI yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi modelau'r dyfodol — gan greu cylch o gamgymeriadau a rhagfarn sy'n gwaethygu gyda phob cyfnod. Ar gyfer y Gymraeg, mae'r risgiau’n real ac yn werth eu deall.🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Could AI seriously undermine minority languages? In our latest blog, Gareth Watkins explains how AI-generated content is fed back into future models — creating a self-reinforcing cycle of errors, bias and cultural distortion. For Welsh, the risks are real and worth understanding. 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
🔗 Darllenwch y blog | Read the blog:

https://techiaith.cymru/2026/06/09/y-gymraeg-ei-diwylliant-a-deallusrwydd-artiffisial-rhifyn-3/

https://techiaith.cymru/2026/06/09/the-welsh-language-its-culture-and-artificial-intelligence-issue-3/index.html

Swydd yn dal i fod ar gael i weithio efo ni fel is-ddatblygwr meddalwedd
22/11/2024

Swydd yn dal i fod ar gael i weithio efo ni fel is-ddatblygwr meddalwedd

**SWYDD NEWYDD**

>> Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg
>> Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

Manylion yma >> https://bit.ly/4aSuUSV

18/12/2023

Mae Cereproc, Prifysgol Bangor, y Ganolfan Genedlaethol Technoleg Gynorthwyol Electronig a Llywodraeth Cymru yn falch o ddarparu lleisiau synthetig Cymraeg a Saesneg gydag acenion Cymreig ar gyfer plant a plant yn eu harddegau, a hynny am ddim o www.cereproc.com. Rhowch lais yn rhodd y Nadolig hwn.

"Annwyl Siôn Corn, ar gyfer y Nadolig eleni, hoffwn gael siarad fel fy nheulu a'm ffrindiau"

Address

Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Neuadd Dyfrdwy, Ffordd Y Coleg
Bangor
LL572DG

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Techiaith posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share