09/03/2023
Rhannu neges ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
Gall rolau yn ein sefydliad amrywio o Adnoddau Dynol a Chymorth Busnes, Cyllid, TGCh, Fflyd a Pheirianneg, Diogelwch Cymunedol, Diffoddwyr Tân Gweithredol a llawer mwy.
Mae gennym swyddi cefnogi Gwasanaeth amrywiol yn cael eu hysbysebu drwy gydol y flwyddyn yn ôl y gofyn. Rydym hefyd bob amser yn awyddus i glywed gan y rhai sydd â diddordeb mewn bod yn Ddiffoddwr Tân ar alwad, gan ymateb i'w gorsaf dân leol fel a phryd y derbynnir galwad frys. Nid oes dyddiadau penodol o ran pryd bydd y prosesau recriwtio nesaf ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser yn cael eu cynnal.
Fel gwasanaeth brys, mae darparu dewis rhagweithiol o ddefnyddio'r Gymraeg yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw'r cyhoedd yn wynebu unrhyw rwystrau wrth gysylltu â ni. Mae ein holl swyddi rheng flaen h.y. swyddi sy'n cynnwys cyswllt agos â'r cyhoedd, yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n gofyn am ruglder yn y Gymraeg.
Mae ein swyddi'n cael eu hysbysebu ar ein gwefan yn ogystal ag ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym hefyd dudalen recriwtio bwrpasol ar Facebook Gyrfaoedd Tân Gogledd Cymru / North Wales Fire Careers
Posting on behalf of North Wales Fire and Rescue Service:
Roles within our organisation can vary from HR and Business Support, Finance, ICT, Fleet and Engineering, Community Safety, Operational Firefighters and many more.
We have various support roles advertised throughout the year as required. We’re also always keen to hear from those interested in becoming an On-Call Firefighter, responding to their local fire station as and when an emergency call is received. There are no set dates of when recruitment processes for Full time firefighters will be undertaken.
As an emergency service, providing an active choice of using Welsh is essential to ensure that the public don’t face any barriers when contacting us. All of our front facing posts, i.e. posts that involve close contact with the public, are advertised as requiring fluency in Welsh. Some of these posts include our home safety support workers that carry out safety checks in people’s homes, as well as our control room staff that take emergency calls.
Our jobs are advertised on our website as well as on our social media pages. We also have a dedicated recruitment page on Facebook Gyrfaoedd Tân Gogledd Cymru / North Wales Fire Careers