Mae hwn yn gynllun rhyngwladol ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor, Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith Tsieina (CUPL) yn Beijing. Mae gan Sefydliad Confucius strwythur cefnogaeth a llywodraethu newydd, sy'n cynnwys y Sefydliad Addysg Ryngwladol Tsieineaidd (CIEF) newydd, sefydliad elusennol anllywodraethol ydyw, sy'n cynnwys cynghrair o brifysgolion Tsieina gan gynnwys Prifysgol Beijing, Prifysgol Fudan, Prifysgol Iaith a Diwylliant Beijing, a sefydliadau a chwmnïau cymdeithasol eraill. Cefnogir Sefydliad Confucius hefyd gan y Ganolfan Addysg Iaith a Chydweithrediad (CLEC) sy'n datblygu'r safonau Cenedlaethol Hyfedredd Iaith Tsieina ledled y byd ac yn cynnig llwyfan ac adnoddau ar gyfer partneriaethau addysg ac ymchwil. Mae Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor yn sefydliad di-elw sy’n anelu at roi cyfle i bobl Gogledd Cymru brofi diwylliant ac iaith Tsieina a dysgu mwy amdanynt. Gyda rhaglen amrywiol a chyfoethog o ddigwyddiadau diwylliannol, darpariaeth iaith ac ymchwil academaidd, mae'r Sefydliad yn gyfrwng hynod werthfawr ar gyfer cyfnewid diwylliannol, addysgol a deallusol rhwng Gogledd Cymru a Tsieina. O Ynys Môn yn y gorllewin i Wrecsam yn y dwyrain ein nod yw ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ar draws y rhanbarth, ac rydym yn gobeithio y byddwch chi'n rhan o'n siwrnai.
-------------------------------------
Welcome to the Confucius Institute at Bangor University; an international collaboration between Bangor University and China University of Political Science and Law (CUPL) in Beijing. The Confucius Institute have new support and governance structure, comprising of the newly established Chinese International Education Foundation (CIEF), non-governmental charitable organisation, including an alliance of Chinese universities amongst which, Peking University, Fudan University, Beijing Language and Culture University, and other social organisations and companies. The Confucius Institute is also supported by the Centre for Language Education and Cooperation (CLEC) which develops the National Chinese Language Proficiency standards across the world and provide a platform and resources for education and research partnerships. Bangor University’s Confucius Institute is a non-profit organisation that aims to provide the people of north Wales with the opportunity to experience and learn more about Chinese culture and language. With a rich programme of cultural events, language provision and academic research, the Institute is an invaluable portal for cultural, educational and intellectual exchange between north Wales and China. From Anglesey in west Wales to Wrexham in the east, we aim to inspire and engage across the community, and we hope that you will be part of our journey.