08/09/2026
Un o’r penderfyniadau gorau a wnes i yn ystod fy MSc oedd trefnu cyfarfod un-i-1 gyda Marianne Gardner, fy nghynghorydd cyflogadwyedd yn y brifysgol.
Roeddwn eisiau lleoliad lle gallwn ennill profiad yn y diwydiant a pharhau i astudio. Rhoddodd gyngor gwych i mi a rhannodd ychydig o gyfleoedd, ac un ohonyn nhw oedd M-SParc.
Bûm yn ymweld â'r adeilad, yn ymchwilio i'r cwmnïau tenant ymlaen llaw ac yn cyfarfod rhai o'r tîm, ac roedd pawb mor groesawgar. Gwnaeth un cyflogwr hyd yn oed fy nghyflwyno i Academi Sgiliau M-SParc a'm hannog i wneud cais.
Roeddwn i'n amau fy hun oherwydd dim ond ychydig o bobl oedden nhw'n eu dewis. Roeddwn i'n meddwl, 'Pam fuasen nhw'n fy newis i pan fydda i'n dal i astudio a dim ond yn gallu gweithio'n rhan-amser?'
Yn y pen draw, mi wnes i gais wrth gerdded i ddal bws. Dewisais yr opsiwn rhan-amser ond dywedais wrthyn nhw fy mod i'n rhywun sy'n gwbl ymroddedig ac wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau.
Yna daeth yr alwad… a bron i mi ei cholli! Rwyf mor falch nad oeddwn i wedi cymryd swydd ddibwys ar hap y diwrnod hwnnw, oherwydd efallai buaswn wedi colli'r cyfle hwn.
Cefais fy newis a'm lleoli gydag Eryri Consulting fel Rheolwr Datblygu Cynnyrch a Marchnata am chwe mis. Roeddwn yn mynd i ddarlithoedd yn y bore, yn gweithio yn y prynhawn, ac yn cael cyfarfodydd rheolaidd â thîm yr Academi Sgiliau, a chyflwyno cynnydd fy lleoliad ar ôl tri mis.
Y rhan orau? Ar ddiwedd y rhaglen, cefais ffarwel mor hyfryd gyda blodau. Roedd yn ffordd hyfryd o ddathlu chwe mis o ddatblygu, dysgu a chyfrannu at y tîm. Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cymryd y cyfle hwnnw.
Oes gennych chi stori i'w rhannu? Anfonwch e-bost at [email protected]
Bangor University School of History, Law and Social Sciences
Bangor University Department of Modern Languages and Cultures
School of Computer Science and Engineering - Bangor University
Biological Sciences at Bangor University
School of Ocean Sciences
Ysgol Addysg Prifysgol Bangor - School of Education Bangor University
Sport Science - Gwyddor Chwaraeon. Prifysgol Bangor University
Bangor University International
Prifysgol Bangor
Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor
Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor