18/08/2026
Rydym wrth ein bodd yn rhannu cyflawniadau ein disgyblion Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn sgil canlyniadau arholiadau'r haf hwn.
Eleni, gwelwyd y canlyniadau Safon Uwch gorau gennym ers blynyddoedd lawer, yn enwedig o ran y graddau uchaf, gyda bron i draean o'r holl raddau a ddyfarnwyd yn A* ac A. Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ymroddiad, gwydnwch ac uchelgais ein dysgwyr, ynghyd â chefnogaeth ddi-ildio ein staff, ein teuluoedd a chymuned ehangach yr ysgol.
I'n disgyblion Blwyddyn 13: rydym yn hynod falch o bopeth rydych wedi'i gyflawni ac yn dymuno pob llwyddiant i chi ym mhennod nesaf eich taith, boed hynny'n mynd i'r brifysgol, cychwyn prentisiaethau neu ymuno â byd gwaith. Rydych yn gadael yr ysgol nid yn unig gyda chymwysterau rhagorol, ond hefyd fel pobl ifanc sy'n ymgorffori ein gwerthoedd craidd o barch, caredigrwydd, uchelgais a gwydnwch.
I'n disgyblion Blwyddyn 12: edrychwn ymlaen at eich croesawu'n ôl ym mis Medi ar gyfer eich blwyddyn olaf. Gyda sylfaen mor gadarn eisoes yn ei lle, rydym yn gyffrous i weld beth fyddwch yn ei gyflawni nesaf.
Bydd dwy o'n disgyblion yn mynd i Rydychen eleni, sef Lara Murphy sy'n mynd i ddarllen y Gyfraith a Millie Edmunds sy'n mynd i ddarllen Bioleg.
Llongyfarchiadau i bawb!
We are absolutely delighted to share the achievements of our Year 12 and Year 13 students in this summer's examination results.
This year has seen our strongest set of A Level results in many years, particularly at the highest grades, with nearly one third of all grades awarded at A* and A. These outcomes reflect the dedication, resilience and ambition of our learners, together with the unwavering support of our staff, families and wider school community.
To our Year 13 students, we are incredibly proud of all that you have accomplished and wish you every success in the next chapter of your journey, whether that be university, apprenticeships or entering the world of work. You leave us with not only excellent qualifications, but also as young people who embody our core values of respect, kindness, ambition and resilience.
To our Year 12 students, we look forward to welcoming you back in September for your final year. With such a strong foundation already in place, we are excited to see what you will achieve next.
Two of our students will be going to Oxford to study this year! Lara Murphy is going to be reading Law at Jesus College and Mille Edmunds will be reading Biology at New College.
Llongyfarchiadau i bawb!