21/08/2026
🌱 Meet the Team: Amanda Holder
Research into sustainable bioenergy crops takes place in the field, the laboratory and the glasshouse – and Amanda Holder enjoys working across them all.
As a Postdoctoral Research Associate at IBERS, Amanda uses a combination of field and controlled environment experiments to better understand the bioenergy crop Miscanthus. 🌾 Her research explores how the crop interacts with its environment, identifies valuable traits for future breeding programmes, and investigates innovative ways of growing it more effectively.
Amanda particularly enjoys the variety her role offers, combining hands-on experimental work with data analysis and scientific investigation. It's a role that allows her to be both creative and technical, with no two days quite the same.
🎓 One of Amanda's proudest achievements is earning her PhD. Having started with a Foundation Degree as a mature student, she hadn't expected to continue into research, but discovering a passion for science led her all the way to a doctorate.
🐦 Away from work, Amanda enjoys creating miniature worlds, spending time in the garden, and volunteering with the British Trust for Ornithology, carrying out regular bird surveys at a local reservoir as part of a national monitoring scheme.
💚 Amanda's story is a great example of how curiosity and a willingness to embrace new opportunities can lead to an exciting career in research.
--
🌱 Cwrdd â'r Tîm: Amanda Holder
Mae ymchwil i gnydau bio-ynni cynaliadwy yn cael ei gynnal yn y maes, y labordy a'r tŷ gwydr – ac mae Amanda Holder yn mwynhau gweithio ar draws pob un ohonynt.
Fel Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol yn IBERS, mae Amanda yn defnyddio cyfuniad o arbrofion yn y maes ac mewn amgylcheddau a reolir i gael gwell dealltwriaeth am y cnwd bioynni Miscanthus. 🌾 Mae ei hymchwil yn edrych ar sut mae'r cnwd yn rhyngweithio â'i amgylchedd, yn canfod nodweddion gwerthfawr ar gyfer rhaglenni bridio yn y dyfodol, ac yn ymchwilio i ffyrdd arloesol o'i dyfu'n fwy effeithiol.
Mae Amanda yn mwynhau'r amrywiaeth y mae ei rôl yn ei gynnig, gan gyfuno gwaith ymarferol wrth gynnal arbrofion â dadansoddi data ac ymchwil wyddonol. Mae'n rôl sy'n golygu bod modd iddi fod yn greadigol yn ogystal â thechnegol, ac nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth.
🎓 Un o’r llwyddiannau y mae Amanda’n ymfalchïo ynddo fwyaf yw ennill ei PhD. Ar ôl dechrau gyda Gradd Sylfaen fel myfyrwraig aeddfed, nid oedd wedi disgwyl mynd ymlaen i fyd ymchwil, ond ar ôl darganfod ei hangerdd am wyddoniaeth arweiniodd hyn yr holl ffordd at ei doethuriaeth.
🐦 I ffwrdd o'r gwaith, mae Amanda yn mwynhau creu bydoedd miniatur, treulio amser yn yr ardd, a gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, gan gynnal arolygon adar rheolaidd mewn cronfa ddŵr leol fel rhan o gynllun monitro cenedlaethol.
💚 Mae stori Amanda yn enghraifft wych o sut y gall chwilfrydedd a pharodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd newydd arwain at yrfa gyffrous ym myd ymchwil.
’rTîm