31/07/2026
Bydd aelodau o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth yn arwain dwy drafodaeth ddiddorol ar faes Eisteddfod Y Garreg Las yr wythnos nesaf – y cyntaf ar fore dydd Llun yn ystyried goblygiadau etholiad hanesyddol mis Mai a’r ail ar brynhawn ddydd Iau yn trafod protestiadau iaith enwog yn Aberystwyth dros y blynyddoedd. Croeso i bawb!