Dysgu Creadigol / Creative Learning - Aberystwyth Arts Centre

Directions Website

Dysgu Creadigol / Creative Learning - Aberystwyth Arts Centre Dewch i gael eich Ysbrydoli - Byddwch yn Greadigol! Be Inspired - Get Creative! Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn fuan!

‘Rydym yn dîm bach o 3, yn gweithio gyda thîm o dros 40 o artistiaid a thiwtoriaid talentog i drefnu’n rheolaidd dros 7,000 o wersi bob blwyddyn. Mae’r sawl sy’n cymryd rhan o bob oedran, o’r babis sy’n mynychu ein Clwb 123 poblogaidd i’r oedolion 80+ sy’n cymryd rhan yn ein gwahanol ddosbarthiadau celf. Mae llawer o’n cyfranogwyr yn astudio ar gyfer arholiadau LAMDA, RAD, ISTD yn ogystal â’r Wobr Gelfyddydau sy’n galluogi pobl ifanc rhwng 5-25 oed i ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn amrywiaeth o’r ffurfiau celf. Credwn fod gennym ‘rywbeth at ddant pawb’ - o fodelu mewn clai i theatr ieuenctid, animeiddiad i ddawnsio Bollywood. Mae gennym Ysgol Ddawns, Ysgol Lwyfan a Theatr Ieuenctid llewyrchus, yn ogystal â dosbarthiadau celfyddydau gweledol rheolaidd i oedolion a phlant. ‘Rydym hefyd yn trefnu Prosiectau Cymunedol megis
Cartref, Breuddwydiwch Freuddwyd, Hei Clai a Byddwch y Greadigol. ‘Rydym yn rheoli Criw Celf Ceredigion - rhaglen addysg gelfyddydol i bobl ifanc 12-18 oed sy’n cael eu hystyried yn ‘Fwy Abl a Thalentog’ yn y celfyddydau gweledol. Ers mis Mawrth 2020 ‘rydym wedi symud at ddysgu ar-lein gan gyflwyno amrywiaeth o ffurfiau celf i bobl o bob oedran yn eithaf llwyddiannus.

‘Rydym yn hyderus y byddwch yn ffeindio bod cost y dosbarthiadau yn rhesymol iawn - cymerwch amser allan i dretio’ch hun neu dewch â ffrind gyda chi i ymuno yn yr hwyl! Yn aml mae’n bosibl ymuno â dosbarth ar ôl y dyddiad dechrau, felly jyst cysylltwch â ni i holi. Dysgwch sgil newydd, datblygwch grefft neu ewch ati i wella’r ffurf gelf yr ydych yn ymddiddori ynddi - y cyfan mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol, gyda chyfleusterau ardderchog y byddai’n anodd dod o hyd iddynt rywle arall yng Nghanolbarth Cymru. We are a small team of 3, working with a team of over 40 talented artists and tutors and regularly delivering over 7,000 lessons each year. Our participants are all ages, from babies taking part in our popular Clwb 123 to adults aged 80+ taking part in our various art classes. Many of our participants study for exams in LAMDA, RAD, ISTD as well as Arts Award which enables people aged 5-25 to gain a nationally recognised qualification in a variety of art forms. We think there’s ‘something for everyone’ – from clay modelling to youth theatre, animation to Bollywood dance. We have a thriving Dance School, Stage School and Youth Theatre, as well as regular visual arts classes for adults and children. We also deliver Community Projects, such as Cartref, Dream a Dream, Hey Clay and Get Creative. We manage Criw Celf Ceredigion – an arts education programme for young people aged 12-18 who are identified as being ‘More Able and Talented’ in the visual arts. Since March 2020 we have diversified into online teaching – delivering a variety of artforms to all ages with great success. We are confident you’ll find the cost of classes very reasonable - take some time just for you or bring a friend and share the fun! It is often possible to join a class after the start date, just drop us a line to enquire. Learn a new skill, develop a craft or become proficient in your preferred artform – all in a friendly, supportive environment, with excellent facilities that are hard to find elsewhere in Mid-Wales. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
[email protected] / 01970 622888

We look forward to welcoming you to Aberystwyth Arts Centre soon! For further information please contact:
[email protected] / 01970 622888

Little Dance Project Presents: Alice in Spookyland25/10/2026 - 2pm & 3pm Camwch i lawr y twll cwningen y Calan Gaeaf hwn...
14/10/2026

Little Dance Project Presents: Alice in Spookyland

25/10/2026 - 2pm & 3pm

Camwch i lawr y twll cwningen y Calan Gaeaf hwn am anturiaeth ddawns hudolus wedi’i hysbrydoli gan fyd rhyfeddol Alice! Ymunwch â ni wrth i ni ddisgyn i Wlad Fwganllyd, lle mae pwmpenni sy’n dawnsio, Hetwyr Hurt direidus, partïon te annaearol a chreaduriaid hudolus yn aros amdanom. Mae’r perfformiadau’n ysgafn ac wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer rhai bach. Y ffordd berffaith i gyflwyno plant ifanc i bleserau’r theatr! Anogir gwisg ffansi!

Step down the rabbit hole this Halloween for a magical dance adventure inspired by the curious world of Alice! Join us as we tumble into Spookyland, where dancing pumpkins, mischievous Mad Hatters, ghostly tea parties and enchanted creatures await. Performances are gentle and designed especially for little ones. The perfect way to introduce young children to the joys of theatre! Fancy dress is encouraged!

https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173693380

09/10/2026

Dydd Sadwrn 10 Hydref | Saturday 10th October

Nodyn cwrtais i'ch atgoffa na fydd dosbarthiadau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau gan fod Diwrnod Agored y Brifysgol.

A polite reminder that there will be no classes held at the Arts Centre due to a University Open Day.

Cofion,

Dysgu Creadigol | Creative Learning

Croeso i Ddyfrlliw | Welcome to WatercolourArchwiliwch bosibiliadau creadigol dyfrlliw mewn amgylchedd stiwdio hamddenol...
17/09/2026

Croeso i Ddyfrlliw | Welcome to Watercolour

Archwiliwch bosibiliadau creadigol dyfrlliw mewn amgylchedd stiwdio hamddenol a chyfeillgar.

Gan weithio gyda’r artist proffesiynol a’r tiwtor profiadol Tereska Shepherd, byddwch yn archwilio amrywiaeth o dechnegau dyfrlliw, gan gynnwys gwahanol fathau o olchiadau, cymysgu a haenu lliwiau, gwneud marciau, brwsio sych a dulliau cyfryngau cymysg. Bydd arddangosiadau, taflenni a chyngor unigol yn eich helpu i fagu hyder wrth arbrofi gydag amrywiaeth o bynciau, gan ymateb lle bo modd i ddiddordebau’r grŵp.

Explore the creative possibilities of watercolour in a relaxed and friendly studio environment.

Working with professional artist and experienced tutor Tereska Shepherd, you’ll explore a range of watercolour techniques including different washes, colour mixing and layering, mark-making, dry brushwork and mixed-media approaches. Demonstrations, handouts and individual guidance will help you develop confidence while experimenting with a variety of subject matter, shaped where possible by the interests of the group.

18 Medi | September – 23 Hydref | October 2026
Dydd Gwener | Fridays, 10.00am–1.00pm
Oedran | Age : 18+
Tiwtor | Tutor: Tereska Shepherd
Lleoliad | Location: Stiwdio 2D Studio
Ffi | Fee: £132

https://aberystwythartscentre-creativelearning.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173692563

Address

Aberystwyth Arts Centre, Penglais Campus
Aberystwyth
SY233DE

Opening Hours

Monday 9am - 5:30pm
Tuesday 9am - 5:30pm
Wednesday 9am - 5:30pm
Thursday 9am - 5:30pm
Friday 9am - 4:30pm
Saturday 10am - 4pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Dysgu Creadigol / Creative Learning - Aberystwyth Arts Centre posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share