13/07/2026
Diolch Cardi Iaith Mei Gwynedd Delor James a chriw TGAU Cerddoriaeth YBT! Penblwydd Hapus Bro Teifi!!🎉🎉
🎶 Un arall i gasgliad Cân yr Ysgol! 🎶
I nodi 10 mlynedd o Ysgol Bro Teifi, rydym yn hynod falch fod tîm Siarter Iaith Ceredigion wedi cael y cyfle i gydweithio gyda'r ysgol i greu cân arbennig sy’n dathlu’r ysgol, eu disgyblion a'u chymuned. Mae’r gân wedi’i hysgrifennu gyda chriw o ddisgyblion bl 10 gyda chymorth arbennig Delor James a Mei Gwynedd
⭐ Dyma gyflwyno i chi: “Ein Bro Teifi” ⭐
📝 Geiriau: Delor James
🎼 Alaw: Mei Gwynedd
Diolch o galon i’r holl ddisgyblion a’r staff a gyfrannodd at y prosiect arbennig hwn. Mae’r gân yn adlewyrchu balchder, cyfeillgarwch ac ymdeimlad cryf o berthyn i Fro Teifi.
Gobeithiwn y bydd “Ein Bro Teifi” yn llenwi calonnau’r gymuned â balchder, yn dod ag atgofion melys i’r cof, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol wrth i’r ysgol edrych ymlaen at ei phennod nesaf. ❤️💛
Mwynhewch: https://open.spotify.com/track/0L3CFCMXAYUplf68wNCe4t?si=515a457b67704d72