03/02/2022
🌟🌟🌟🌟Swydd🌟🌟🌟🌟
Arweinydd Cylch Meithrin Morfa Nefyn
Lleoliad: Cylch Meithrin Morfa Nefyn, Y Ganolfan, Morfa Nefyn, LL53 6BW
Cyflog: £20,475 pro rata
Oriau: I’w drafod
Dyddiad cychwyn: Chwefror 28ain 2022.
Cymwysterau: Mae Cylch Meithrin Morfa Nefyn yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch.
Byddai profiad o weithio mewn cylch blaenorol o fantais, ond nid yn angenrheidiol.
Am fwy o wybodaeth neu am ffurflen gais ebostiwch [email protected]
Dyddiad Cau:11/2/22 7pm