Ysgol Gyfun Gwyr

Ysgol Gyfun Gwyr

Share

Tudalen Facebook swyddogol Ysgol Gyfun Gwyr
//
Official page for Ysgol Gyfun Gwyr

Photos from Ysgol Gyfun Gwyr's post 11/06/2026

🧪🔬 O’R YSTAFELL DDOSBARTH I’R LABORDY! 🌟

Cafodd disgyblion Blwyddyn 12 Cemeg gyfle gwych i ymweld ag Adran Gemeg Prifysgol Abertawe, lle buont yn gweithio mewn labordai prifysgol ac yn cael blas ar fywyd fel myfyrwyr gwyddoniaeth.

Yn ystod y sesiwn, bu’r disgyblion yn cynnal gwaith ymarferol uwch, yn cynhyrchu aspirin ac yn defnyddio technegau labordy i greu a dadansoddi proffil cemegion organig.

Roedd y profiad yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu sgiliau ymarferol, dyfnhau dealltwriaeth wyddonol a chael cipolwg ar y cyfleoedd sydd ar gael mewn addysg uwch a gyrfaoedd STEM.

Diolch i Brifysgol Abertawe am groesawu ein disgyblion a darparu profiad mor ddiddorol ac ysbrydoledig.

🧪💡 Mae’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr mewn dwylo da!

________________________________________________________________

🧪🔬 FROM THE CLASSROOM TO THE LABORATORY! 🌟

Our Year 12 Chemistry students recently had the exciting opportunity to visit the Department of Chemistry at Swansea University, where they experienced life as university scientists and worked in professional laboratory facilities.

During the visit, students carried out advanced practical work, including the synthesis of aspirin and the use of laboratory techniques to create and analyse profiles of organic compounds.

The experience provided a valuable opportunity to develop practical skills, deepen scientific understanding and gain an insight into the opportunities available through higher education and STEM careers.

A huge thank you to Swansea University for welcoming our students and providing such an engaging and inspiring experience.

🧪💡 Today’s chemistry students could well be tomorrow’s scientists, researchers and innovators.

20/05/2026

Dewch yn llu nos yfory!
Everybody welcome tomorrow evening!

13/05/2026

🏆🏐 LLWYDDIANT TRIPHLYG I BÊL-RWYD GWYR!

Llongyfarchiadau enfawr i Florence a Betsi o Fl.9 ac Elise o Fl.10 ar gael eu dewis i gynrychioli Carfan Pêl-rwyd Academi Rhanbarthol Cymru dan 15 oed 2025-2026. Mae hwn yn gyflawniad arbennig iawn! 🏆

Cafodd y dair gemau gwych dros y penwythnos yn erbyn Rhanbarth Caerdydd a’r Fro, gan gynrychioli eu rhanbarth gyda balchder, ymroddiad ac egni gwych. Mae hyn hefyd yn adlewyrchiad gwych o safonau uchel ac ymrwymiad yr Adran Addysg Gorfforol yma yn yr ysgol. 💛🖤

Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn i bêl-rwyd yn Ysgol Gyfun Gŵyr 🌟

____________________________________________________________

🏆🏐 TRIPLE CALL-UP FOR GWYR NETBALL STARS!

Huge congratulations to Florence and Betsi (Year 9) and Elise (Year 10) on being selected to represent the Wales Regional Academy Netball U15 Squad 2025-2026. This is a fantastic achievement.🏆

All three girls played brilliantly over the weekend against the Cardiff and Vale Region, representing their region with pride, commitment and outstanding energy. This success is also a fantastic reflection of the high standards and dedication within the PE department at our school. 💛🖤

The future of netball at Ysgol Gyfun Gwyr is looking incredibly bright 🌟

06/05/2026
Photos from Ysgol Gyfun Gwyr's post 01/05/2026

🌊🏆 TON O LWYDDIANT I GŴYR! 🌟

Llongyfarchiadau enfawr i’n cymuned ysgol ar lwyddiant arbennig yng Ngwobrau Tlws Tawe 👏 Cynhaliwyd y seremoni heddiw yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin, gan ddathlu ymrwymiad ysgolion a chymunedau i’r Gymraeg - ac roedd yn wych gweld Gŵyr yn disgleirio ar lwyfan mor bwysig 🌟

🏆 Pwyllgor Cymreictod Ysgol Gyfun Gŵyr
Enillwyr gwobr am eu hymdrechion eithriadol i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned, dan arweiniad Mrs Non Lewis a Miss Laura Hughes - enghraifft wych o arweinyddiaeth disgyblion a balchder yn yr iaith.

🏆 Mr Rhodri Evans (Pennaeth Cynorthwyol) a Mrs Angharad Voyle (Pennaeth Daearyddiaeth)
Enillwyr am eu gwaith rhagorol drwy’r prosiect “Cymraeg i Bawb”, sydd wedi cael effaith sylweddol ar hyrwyddo’r Gymraeg a hybu amrywiaeth ar draws yr ysgol a thu hwnt.

🏆 Mr Garan Jenkins (Cynorthwyydd Addysgu)
Enillydd gwobr fel Cynorthwyydd Ysbrydoledig, yn cydnabod ei ymroddiad, ei gefnogaeth barhaus a’r effaith gadarnhaol mae’n ei chael ar ddisgyblion.

Mae’r llwyddiannau hyn yn dyst i ymrwymiad, angerdd ac arweinyddiaeth ar bob lefel, staff a disgyblion fel ei gilydd. Da iawn bawb - rydym yn falch iawn ohonoch! 💛🖤

___________________________________________________________

🌊🏆 A WAVE OF SUCCESS FOR GWYR! 🌟

Huge congratulations to our school community on outstanding success at the Tlws Tawe Awards 👏The ceremony, held today at the Taliesin Arts Centre, celebrated the commitment of schools and communities to the Welsh language, and it was fantastic to see Ysgol Gyfun Gwyr shining on such an important stage 🌟

🏆 Ysgol Gyfun Gwyr Welsh Committee (Pwyllgor Cymreictod)
Award winners for their exceptional efforts in promoting the Welsh language within the community, under the guidance of Mrs Non Lewis and Miss Laura Hughes - a fantastic example of pupil leadership and pride in the language.

🏆 Mr Rhodri Evans (Assistant Headteacher) and Mrs Angharad Voyle (Head of Geography)
Winners for their excellent work through the “Cymraeg i Bawb” project, which has had a significant impact on promoting the Welsh language and promoting diversity across the school and beyond.

🏆 Mr Garan Jenkins (Teaching Assistant)
Winner of the Inspirational Support Assistant award, recognising his dedication, ongoing support and positive impact on pupils.

These achievements reflect commitment, passion and leadership at every level, from both staff and pupils.

Very well done everyone - we are incredibly proud! 💛🖤

29/04/2026

📚🌟 STORI O LWYDDIANT! 🥈

Llongyfarchiadau mawr i dîm Blwyddyn 8 am ddod yn ail yng nghystadleuaeth Gornest Lyfrau Sir Abertawe 👏📖

Roedd y safon yn uchel iawn eleni, gyda’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar draws tair sir. Canmolwyd ein tîm am eu trafodaeth aeddfed, eu dealltwriaeth gref o’r nofel, eu empathi wrth drafod cymeriadau a’u defnydd o eirfa uchelgeisiol.

Mae hwn yn gyflawniad arbennig iawn ac yn adlewyrchiad o waith caled y disgyblion a’r staff wrth baratoi.

Da iawn i bawb a fu ynghlwm! 💛🖤

____________________________________________________________

📚🌟 BOOKED FOR SUCCESS! 🥈

Huge congratulations to our Year 8 team for finishing second in the Swansea County Book Competition 👏📖

The standard was exceptionally high again this year, with the competition being run across three counties. Our team were praised for their mature discussion, strong understanding of the novel, empathy when discussing characters, and ambitious vocabulary.

This is a fantastic achievement and a real reflection of the hard work of both pupils and staff in preparing for the competition.

Well done to everyone involved! 💛🖤

Photos from Ysgol Gyfun Gwyr's post 26/04/2026

🎶🏆 LLWYDDIANT YN EISTEDDFOD CASTELL-NEDD! 🌟
Llongyfarchiadau mawr i’n disgyblion ar ddiwrnod llwyddiannus iawn yn Eisteddfod Castell-nedd ddoe 👏

🥇 1af – Erin yn yr Alaw Werin Hyn
🥈 2il – Côr Uwchradd

Cafwyd perfformiadau arbennig, sy'n deyrnged i'r holl waith caled er mwyn cynrychioli’r ysgol ar lwyfan mor bwysig. Da iawn bawb - rydym yn falch iawn ohonoch! 💛🖤

____________________________________________________________

🎶🏆 DOUBLE SUCCESS AT THE EISTEDDFOD! 🌟
Huge congratulations to our pupils on a very successful day at the Neath Eisteddfod yesterday 👏

🥇 1st – Erin in the "Unawd Alaw Werin" (Individual Folk Singing)
🥈 2nd – Senior Choir

Outstanding performances were seen, which were a tribute to all the hard work to represent the school on such an important stage. Success like this reflects the talent, dedication and passion of our pupils and music staff.

Well done everyone - we are incredibly proud of you! 💛🖤

23/04/2026

🏑🌟 GOLAU, GRIT & AGWEDDAU GWYCH!

Llongyfarchiadau mawr i dîm bechgyn Blwyddyn 7 ac 8 a fu’n cynrychioli’r ysgol yng Ngwyl Hoci Cymru ddoe 👏 Roedd pawb wedi chwarae’n arbennig o dda, dangos ymdrech wych ac ymddwyn yn arbennig drwy’r dydd. Yn bwysicaf oll, roeddent wedi mwynhau’r profiad ac wedi joio mas draw! 🙌

Mae cynrychioli’r ysgol gyda balchder, parch a gwaith tîm yn bwysig iawn, ac roedd y criw yma yn gwneud hynny’n wych. Da iawn fechgyn - rydym yn falch iawn ohonoch! 💛🖤

______________________________________________________________

🏑🌟 GOALS, GRIT & GREAT ATTITUDE!

Huge congratulations to our Year 7 and 8 boys’ team who represented the school at the Wales Hockey Festival yesterday 👏 Everyone played brilliantly, showed fantastic effort and behaved exceptionally well throughout the day. Most importantly, they enjoyed the experience and had a great time! 🙌

Representing the school with pride, respect and teamwork matters hugely, and this group did exactly that. Well done boys - we are very proud of you! 💛🖤

23/04/2026

🏑🌟 GOLAU, GRIT & AGWEDDAU GWYCH!

Llongyfarchiadau mawr i dîm bechgyn Blwyddyn 7 ac 8 a fu’n cynrychioli’r ysgol yng Ngwyl Hoci Cymru ddoe 👏 Roedd pawb wedi chwarae’n arbennig o dda, dangos ymdrech wych ac ymddwyn yn arbennig drwy’r dydd. Yn bwysicaf oll, roeddent wedi mwynhau’r profiad ac wedi joio mas draw! 🙌

Mae cynrychioli’r ysgol gyda balchder, parch a gwaith tîm yn bwysig iawn, ac roedd y criw yma yn gwneud hynny’n wych. Da iawn fechgyn - rydym yn falch iawn ohonoch! 💛🖤

______________________________________________________________

🏑🌟 GOALS, GRIT & GREAT ATTITUDE!

Huge congratulations to our Year 7 and 8 boys’ team who represented the school at the Wales Hockey Festival yesterday 👏 Everyone played brilliantly, showed fantastic effort and behaved exceptionally well throughout the day. Most importantly, they enjoyed the experience and had a great time! 🙌

Representing the school with pride, respect and teamwork matters hugely, and this group did exactly that. Well done boys - we are very proud of you! 💛🖤

22/04/2026

🚀⚙️ PEIRIANWYR Y DYFODOL AR Y BRIG!

Hyfryd yw gallu dathlu llwyddiant gwych ein Tîm Peirianneg eleni 👏

Ers mis Hydref, mae’r chwe disgybl wedi bod yn gweithio’n galed, arbrofi a datblygu datrysiad go iawn i her a osodwyd gan Prifysgol Abertawe fel rhan o’r Her Beirianneg EESW.

Heddiw, cyflwynodd y tîm eu prosiect i aseswyr o’r maes peirianneg, gan ateb cwestiynau heriol a dangos dealltwriaeth fanwl o’u gwaith.

O blith 60 o dimau o dros 40 ysgol, ac 11 gwobr ar gael, llwyddodd y tîm i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer 3 gwobr genedlaethol — camp anhygoel! 🌟 Yn fwy cyffrous fyth, mae’r prosiect bellach yn cael ei ystyried gan gwmnïau fel opsiwn posibl ar gyfer y dyfodol.

Dyma enghraifft wych o arloesi, gwaith tîm a sgiliau peirianneg o’r radd flaenaf. Rydym yn hynod falch ohonoch!

_____________________________________________________________

🚀⚙️ FUTURE ENGINEERS LEADING THE WAY!

We’re delighted to share the success of our Engineering Team this year 👏

Since October, the six pupils have been working, experimenting and developing a real-world solution set by Swansea University as part of the EESW Engineering Challenge.

Today, the team presented their project to engineering assessors, answering challenging questions and demonstrating a deep understanding of their work.

Out of 60 teams from over 40 schools, with just 11 awards available, the team was shortlisted for 3 national awards - an outstanding achievement! 🌟 Even more exciting, their project is now being considered by companies as a potential future solution.

A brilliant example of innovation, teamwork and high-level engineering skills - we are incredibly proud!

Want your school to be the top-listed School/college in Swansea?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Category

Telephone

Address

Stryd Talbot/Talbot Street
Swansea
SA43DB