Ysgol Pennant

Ysgol Pennant Cymuned hapus a theuluol sy’n darparu addysg a gofal o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg.

A happy and familial community that provides education and care of a high standard through the medium of Welsh.

Mae ein gwarchodfa orangwtangiaid yn dechrau llenwi ag orangwtangiaid sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd effaith datgo...
29/09/2026

Mae ein gwarchodfa orangwtangiaid yn dechrau llenwi ag orangwtangiaid sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd effaith datgoedwigo. Yn ffodus, mae gennym blant caredig a gofalgar iawn yma ym Mhennant i edrych ar eu holau. Ond maent wedi bod yn ddrygionus iawn yn y dosbarth pan nad oes neb yno! Mae'r disgyblion wedi penderfynu creu cyfrifwyr camau gan ddefnyddio micro:bits i fonitro eu symudiadau, ac mae'r canlyniadau'n syndod. Mae'r disgyblion bellach mewn cystadleuaeth i weld pwy all gofnodi mwy o gamau na'r orangwtangiaid!

Wel our orangutang sanctuary is now filling up with orangutans who have sadly lost their homes due to deforestation. Luckily we have some very caring children here at Ysgol Pennant to look after them. But they have been causing mischief in the class when we aren’t there! The pupils decided to create step counters using micro:bits to track their movements, and the results are surprising. The children are now in a competition to see who can clock up more steps than the orangutans!

Micro:bit Educational Foundation

19/09/2026

✨Croeso i Ysgol Pennant ✨
Dewch i weld beth sy'n gwneud ein cymuned ysgol mor arbennig.

✨Welcome to Ysgol Pennant ✨
Come and see what makes our school community so special.

Mae wedi bod yn braf iawn croesawu’r plant yma, ble mae pob un wedi setlo’n wych i fywyd ysgol yma ym Mhennant. Maent we...
18/09/2026

Mae wedi bod yn braf iawn croesawu’r plant yma, ble mae pob un wedi setlo’n wych i fywyd ysgol yma ym Mhennant. Maent wedi bod mor frwdfrydig a gweithgar o’r diwrnod cyntaf!

It has been a pleasure to welcome these children to school. They have settled so well to school life here in Pennant and they have been so enthusiastic and shown such positive attitude towards learning from the very first day!

Da iawn chi 🤩

🏉 ☀️ Cawsom ddiwrnod llawn hwyl yn chwarae rygbi yn Cobra. Da iawn blant am wneud eich gorau glas a mwynhau’r profiad. 😊...
11/09/2026

🏉 ☀️ Cawsom ddiwrnod llawn hwyl yn chwarae rygbi yn Cobra. Da iawn blant am wneud eich gorau glas a mwynhau’r profiad. 😊 Diolch i glwb rygbi Cobra am drefnu’r diwrnod.

🏉 ☀️ We had an enjoyable day playing rugby at Cobra. Well done kids for giving your best effort and enjoying the experience. 😊 Thank you Cobra rugby club for organising the day.

Mae blwyddyn arall wedi dod i ben ac mae’n amser ffarwelio gyda’n disgyblion blwyddyn 6. Dymunwn y gorau oll i bob un oh...
17/07/2026

Mae blwyddyn arall wedi dod i ben ac mae’n amser ffarwelio gyda’n disgyblion blwyddyn 6. Dymunwn y gorau oll i bob un ohonoch ar gyfer y dyfodol. Pob lwc! ✨

As another school year comes to an end, it’s time to say goodbye to our amazing Year 6 pupils. Wishing each and every one of you the very best of luck for the future! ✨

Mae'r disgyblion iau wedi mwynhau 'teithio' y tymor hwn.  Rydym wedi dysgu am wlad gwahanol bob wythnos ar ôl iddynt ble...
16/07/2026

Mae'r disgyblion iau wedi mwynhau 'teithio' y tymor hwn. Rydym wedi dysgu am wlad gwahanol bob wythnos ar ôl iddynt bleidleisio pa wledydd hoffent ddysgu amdanynt.

Yn gyntaf aethom i Ffrainc, bwyta croissants, dysgu am y Tŵr Eiffel, creu gwaith celf Seurat a dysgu Ffrangeg.

Wedyn aethom i Sbaen a choginio pan con tomate, dawnsio fflamenco a chreu gwaith celf yn arddull Picasso.

Wedyn i India i ddysgu am hindwaeth, y Taj Mahal, gwneud ioga a dilyn ryseitiau i greu dips i fwyta gyda popadoms.

Nesaf aethom i Siapan, gwledd o swshi, celf origami, Koinobori a coed ceirios.

Yn olaf aethom i'r UDA gan ganolbwyntio ar arlunwyr Georgia O'Keeffe ac Andy Warhol ac ysgrifennu un o'r ryseitiau mwyaf poblogaidd.. s'mores!

Am blant brwdfrydig a chwilfrydig. Rydych chi werth y byd! 🤩

The younger pupils have enjoyed ‘travelling’ this term. Each week, we have learned about a different country. They voted for the countries they wanted to learn about.

First, we travelled to France, where we enjoyed croissants, learned about the Eiffel Tower, created Seurat-inspired artwork and learned some French.

Next, we travelled to Spain, where we made pan con tomate, danced flamenco and created artwork in the style of Picasso.

After that, we visited India to learn about Hinduism, the Taj Mahal, practise yoga and follow recipes to make delicious dips to enjoy with poppadoms.

We then travelled to Japan, where we enjoyed a sushi feast, created origami art, made Koinobori and learned about cherry blossom trees.

Finally, we visited the USA, focusing on the artists Georgia O’Keeffe and Andy Warhol, and wrote one of the country’s most popular recipes – s’mores!

What a lovely and enthusiastic group of children. 🤩

Mae'r disgyblion wedi cwblhau gweithgareddau mabolgampau ac wedi derbyn eu medalau heddiw. Llongyfarchiadau i chi gyd! T...
16/07/2026

Mae'r disgyblion wedi cwblhau gweithgareddau mabolgampau ac wedi derbyn eu medalau heddiw. Llongyfarchiadau i chi gyd!

The pupils have been completing their sports activities this week and have received their medals today. Congratulations to you all!

Rydym wedi cael hanner tymor bendigedig yn dysgu am hanes Rheilffordd Dyffryn Tanat. I ddathlu diwedd y tymor, penderfyn...
09/07/2026

Rydym wedi cael hanner tymor bendigedig yn dysgu am hanes Rheilffordd Dyffryn Tanat. I ddathlu diwedd y tymor, penderfynon nhw gynnal parti te traddodiadol. Bu'r plant yn helpu i wneud cacen flasus ac yn paratoi brechdanau, cyn mwynhau taith rhithiol ar y trên i Bennant. Wedi hynny, fe wnaethom ymlacio yn yr heulwen a mwynhau ein te prynhawn!

We’ve had a wonderful half term learning all about the history of the Tanat Valley Railway. The children decided to host a traditional tea party inspired by the railway era.
The children helped to make a delicious cake and prepare sandwiches, before enjoying a virtual train ride to Pennant. Afterwards, we all relaxed in the sunshine and shared our afternoon tea together!

Diolch yn fawr Mrs Jones!

🎾Wimbledon 2026🎾Am brofiad gwych yn Wimbledon unwaith eto eleni! Cawsom y fraint o wylio dwy gêm gyffrous yn rownd yr wy...
09/07/2026

🎾Wimbledon 2026🎾

Am brofiad gwych yn Wimbledon unwaith eto eleni! Cawsom y fraint o wylio dwy gêm gyffrous yn rownd yr wyth olaf ar Centre Court. Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd gweld Arthur Fery yn ennill – profiad bythgofiadwy!

What another fantastic experience at Wimbledon! We were lucky enough to watch two exciting Centre Court quarter-final matches. One of the highlights of the day was seeing Arthur Fery secure a brilliant victory. An unforgettable experience!

Diwrnod bendigedig yn Llangollen heddiw! Gan mai 'teithio' yw ein thema y tymor hwn, penderfynodd disgyblion derbyn, 1 a...
03/07/2026

Diwrnod bendigedig yn Llangollen heddiw! Gan mai 'teithio' yw ein thema y tymor hwn, penderfynodd disgyblion derbyn, 1 a 2 drefnu taith bws a cwch. Roedd yn ddiwrnod braf iawn a phawb wedi mwynhau'r teithiau gwahanol. Diolch am fod yn blant mor dda a brwdfrydig, mae'n bleser mynd a chi ar drip. 🤩

What a wonderful day we had at Llangollen! For our 'travel' theme the reception, 1 and 2 pupils planned a train and horse drawn boat trip. It was a lovely sunny day and everyone enjoyed the different journeys. Thank you Llangollen Railway and Llangollen Wharf. Thank you to the pupils for being so enthusiastic and so well behaved, it's a pleasure to take you on trips. 🤩

Address

Ysgol Pennant
Pennant
SY100PB

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Ysgol Pennant posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The School

Send a message to Ysgol Pennant:

Shortcuts

Share

Category