Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd Ysgol Gyfun Gymraeg ardal Pen-y-bont a'r Ogwr! Welsh Medium Comprehensive school in Bridgend Borough!

🎉Croeso Blwyddyn 12 Tîm Llan- Pob lwc i chi yn eich astudiaethau dros y dwy flynedd nesaf! 🎉Welcome Tîm Llan Year 12 - G...
04/09/2026

🎉Croeso Blwyddyn 12 Tîm Llan- Pob lwc i chi yn eich astudiaethau dros y dwy flynedd nesaf!

🎉Welcome Tîm Llan Year 12 - Good luck to you in your studies over the next two years!

📚 Croeso Nol i'r Ysgol🎉Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu dysgwyr Blwyddyn 7 i 11 yn ôl i'r ysgol! 🏫✅ Cyfnod anw...
02/09/2026

📚 Croeso Nol i'r Ysgol🎉

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu dysgwyr Blwyddyn 7 i 11 yn ôl i'r ysgol! 🏫

✅ Cyfnod anwytho i bawb rhwng Gwersi 1 a 3 cyn mynychu gwersi arferol.
✅ Cinio cynnar i Flwyddyn 7 i sicrhau digon o amser i archebu a mwynhau eu cinio.
✅ Amser ychwanegol ar ddiwedd y dydd i helpu Blwyddyn 7 i ddod o hyd i'r bws cywir cyn gadael safle'r ysgol.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd! 👏

📚 Welcome Back to school🎉
We are looking forward to welcoming Years 7 to 11 back to school! 🏫

✅ Induction sessions for all learners during Periods 1 to 3 before attending normal lessons.
✅ Early lunch for Year 7 to ensure plenty of time to order and enjoy their meal.
✅ Extra time at the end of the day to help Year 7 find the correct bus before leaving the school site.

We can't wait to see you all! 👏

Pob lwc i Fraser, Elin, Bethan ac i Caitlin sydd yn perfformio yng nghynhyrchiad Theatr Cymru Urdd Gobaith Cymru o 'Calo...
25/08/2026

Pob lwc i Fraser, Elin, Bethan ac i Caitlin sydd yn perfformio yng nghynhyrchiad Theatr Cymru Urdd Gobaith Cymru o 'Calon' yng Nghanolfan Y Mileniwm yng Nghaerdydd o ddydd Iau 27.8.26 tan dydd Sadwrn 29.8.26!

Good luck to Fraser, Elin, Bethan and to Caitlin who are performing in the Theatr Cymru Urdd Gobaith Cymru production of 'Calon' at the Millennium Center in Cardiff from Thursday 27.8.26 until Saturday 29.8.26!

🎉 Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 ar eu canlyniadau TGAU! 🎉Rydym yn hynod falch o'ch ymdrech,...
20/08/2026

🎉 Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 ar eu canlyniadau TGAU! 🎉
Rydym yn hynod falch o'ch ymdrech, eich ymroddiad a'ch cyflawniadau. Mae eich llwyddiant yn adlewyrchu'r gwaith caled a'r penderfyniad rydych wedi'u dangos drwy gydol eich taith.
Edrychwn ymlaen at groesawu ein dysgwyr yn ôl i Flwyddyn 12 ddydd Gwener, 4ydd o Fedi. Pob lwc hefyd i'r rhai fydd ddim yn dychwelyd mis Medi!
Cofiwch, ble bynnag y bydd eich cam nesaf yn eich arwain, byddwch wastad yn aelodau o Dîm Llan. 💙

🎉 Congratulations to all Year 10 and Year 11 learners on your GCSE results! 🎉
We are incredibly proud of your hard work, dedication and achievements. Your success reflects the commitment and determination you have shown throughout your journey.
We look forward to welcoming our learners back to Year 12 on Friday, 4 September. Best wishes to those who won'tbe returningin September.
Remember, wherever your next steps take you, you will always be part of Tîm Llan. 💙

Llongyfarchiadau gwresog i holl ddysgwyr bl.13 a 12 oedd yn derbyn eu canlyniadau heddiw. Rydym yn browd iawn ohonoch!Bl...
13/08/2026

Llongyfarchiadau gwresog i holl ddysgwyr bl.13 a 12 oedd yn derbyn eu canlyniadau heddiw. Rydym yn browd iawn ohonoch!
Bl.13 - pob lwc i chi gyda'ch antur nesaf.
Bl.12 - welwn ni chi ar ddydd Llun 7fed o Fedi

A huge congratulations to all year 13 and year 12 learners who collected their results today. We are exceptionally proud of each and every one of you.

✨ Mae rhifyn Tymor Haf Lais y Llan wedi cyrraedd! ✨Beth sydd wedi bod yn digwydd yn ein hysgol dros y tymor diwethaf? 🌞📚...
17/07/2026

✨ Mae rhifyn Tymor Haf Lais y Llan wedi cyrraedd! ✨
Beth sydd wedi bod yn digwydd yn ein hysgol dros y tymor diwethaf? 🌞📚🎭⚽
Mae'r cylchlythyr diweddaraf yn llawn o uchafbwyntiau'r tymor, llwyddiannau’r disgyblion, digwyddiadau arbennig, gweithgareddau cyffrous a llawer mwy. Mae wedi bod yn dymor prysur a llwyddiannus iawn!
📖 Cliciwch y ddolen yma i ddarllen y rhifyn diweddaraf: https://canva.link/a0qb46vhafhgn3e

✨ The Summer Term edition of Lais y Llan is here! ✨
Want to see what has been happening in school this term? 🌞📚🎭⚽
Our latest newsletter is packed with highlights from across the school, celebrating pupil achievements, special events, exciting activities and much more. It's been a busy and successful term!
📖 Click this link to read the latest edition: https://canva.link/8x2b4b7u6knn7aj

✨ Mae rhifyn Tymor Haf Lais y Llan wedi cyrraedd! ✨Beth sydd wedi bod yn digwydd yn ein hysgol dros y tymor diwethaf? 🌞📚...
17/07/2026

✨ Mae rhifyn Tymor Haf Lais y Llan wedi cyrraedd! ✨
Beth sydd wedi bod yn digwydd yn ein hysgol dros y tymor diwethaf? 🌞📚🎭⚽
Mae'r cylchlythyr diweddaraf yn llawn o uchafbwyntiau'r tymor, llwyddiannau’r disgyblion, digwyddiadau arbennig, gweithgareddau cyffrous a llawer mwy. Mae wedi bod yn dymor prysur a llwyddiannus iawn!
📖 Cliciwch y ddolen yn y bio / gweld ClassChart i ddarllen y rhifyn diweddaraf.

✨ The Summer Term edition of Lais y Llan is here! ✨
Want to see what has been happening in school this term? 🌞📚🎭⚽
Our latest newsletter is packed with highlights from across the school, celebrating pupil achievements, special events, exciting activities and much more. It's been a busy and successful term!
📖 Click the link in our bio / check Classchart to read the latest edition.

17/07/2026

I gloi’r dathliadau, daeth cymuned gyfan yr ysgol at ei gilydd i ddiolch i Mr Meurig Jones a Mrs Lisa Woodrow am eu hymroddiad, eu harweinyddiaeth a’u gwasanaeth arbennig dros y blynyddoedd.
Roedd yn achlysur llawn emosiwn ac atgofion gwerthfawr, a chafodd y digwyddiad ei goroni gan berfformiad arbennig gan Sofia Fudge yn canu “Yma o Hyd” – cân addas iawn i nodi cyfraniad a gwaddol y ddau i’n hysgol.
Diolch yn fawr i Mr Jones a Mrs Woodrow am bopeth. Dymunwn y gorau i chi'ch dau wrth ddechrau’r bennod nesaf.

To bring our celebrations to a close, the whole school community came together to thank Mr Meurig Jones and Mrs Lisa Woodrow for their dedication, leadership and outstanding service over the years.
It was a heartfelt occasion filled with special memories, made even more memorable by a wonderful performance of “Yma o Hyd” by Sofia Fudge, a fitting tribute to the lasting impact both have had on our school.
Thank you, Mr Jones and Mrs Woodrow, for everything you have done. We wish you both every happiness and success in your next chapter.

17/07/2026

Mae Tîm Llan wedi dod at ei gilydd i ffarwelio â dau aelod arbennig iawn o’n harweinyddiaeth, Mr Meurig Jones a Mrs Lisa Woodrow, sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth arwain a datblygu ein hysgol dros y blynyddoedd.
Wrth i Mr Meurig Jones symud ymlaen i her a swydd newydd, hoffem ddiolch yn ddiffuant iddo am ei ymroddiad, ei arweinyddiaeth a’i gefnogaeth gyson. Dymunwn bob lwc a phob llwyddiant iddo yn y bennod nesaf.
Hefyd, wrth i Mrs Lisa Woodrow ymddeol o'i gyrfa ar ôl gwasanaeth gwerthfawr fel Dirprwy Bennaeth, hoffem ddiolch iddi am ei gwaith caled, ei gofal a’i hymrwymiad i’r ysgol gyfan. Dymunwn y gorau iddi ar gyfer ymddeoliad hir, hapus a haeddiannol.
Diolch i’r ddau am bopeth rydych wedi’i wneud dros gymuned yr ysgol. Byddwch yn cael eich colli’n fawr. 💙

Tîm Llan came together to say farewell to two very special members of our leadership team, Mr Meurig Jones and Mrs Lisa Woodrow, who have played a key role in leading and shaping our school over many years.
As Mr Meurig Jones moves on to a new role and exciting opportunities, we would like to sincerely thank him for his dedication, leadership and unwavering support. We wish him every success and happiness in this next chapter.
As Mrs Lisa Woodrow retires from her career as Deputy Headteacher, we would also like to thank her for her hard work, care and commitment to the entire school community. We wish her a long, happy and well-deserved retirement.
Thank you both for everything you have done for our school. You will be greatly missed. 💙

Address

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Llangynwyd
CF349RW

Opening Hours

Monday 8:30am - 4:15pm
Tuesday 8:30am - 4:15pm
Wednesday 8:30am - 4:15pm
Thursday 8:30am - 4:15pm
Friday 8:30am - 4:15pm

Telephone

+441656815700

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The School

Send a message to Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd:

Shortcuts

Share