Ysgol Talgarreg

Ysgol Talgarreg Tudalen cyhoeddus i gefnogwyr yr ysgol. /// A public page for supporters of the school.

Pob lwc i Miss Haf a Dan sy'n priodi heddiw! Llongyfarchiadau iddyn nhw!  👰🤵🏻‍♂️
22/08/2026

Pob lwc i Miss Haf a Dan sy'n priodi heddiw! Llongyfarchiadau iddyn nhw! 👰🤵🏻‍♂️

Wythnos i’w chofio yn Eisteddfod y Garreg Las! Roedd criw o’r ysgol yn rhan o gôr Plant y Garreg Las. Cawsant gyfle i be...
09/08/2026

Wythnos i’w chofio yn Eisteddfod y Garreg Las!

Roedd criw o’r ysgol yn rhan o gôr Plant y Garreg Las. Cawsant gyfle i berfformio’r gân ‘Croeso i Fro’r Garreg Las’ a chaneuon traddodiadol eraill ym Mhentref y Garreg Las ac ar Lwyfan y Maes. Profiad anhygoel! Dyma ran o'u perfformiad ar Lwyfan y Maes: https://www.facebook.com/watch/?ref=saved&v=1465441398957197

Gwnaeth Elliw a Sara gynrychioli’r Ysgol yn seremoni agoriadol y Babell Lên drwy ddarllen detholiad o gerdd a gyfansoddwyd gan ddisgyblion dosbarth Sarnicol mewn gweithdy gyda’r bardd Steffan Phillips.

Roedd yn hyfryd gweld nifer o ddisgyblion, cyn-ddisgyblion ac aelodau’r gymuned yn cystadlu ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos. Roedd hi’n braf gweld Mrs Bethan Morgan-Jenkins ar lwyfan y Pafiliwn yn rhan o’r côr yn y sioe ‘Sefyll ar Sgwar’.

Mae’n siwr eich bod wedi gweld mainc hyfryd Ysgol Talgarreg wrth ymyl Pentref y Garreg Las. Diolch i Meinir Mathias am ddod a syniadau’r disgyblion yn fyw ac i Donald Evans am y geiriau.

Llongyfarchiadau i bawb!

Pob lwc Blwyddyn 6! Sêr gorau’r sêr!
17/07/2026

Pob lwc Blwyddyn 6! Sêr gorau’r sêr!

PARTI / PARTYCafwyd parti ffarwel i Flwyddyn 6 neithiwr. Gwnaeth pawb fwynhau mas draw yn y disgo ac yna aeth pawb yn ôl...
16/07/2026

PARTI / PARTY

Cafwyd parti ffarwel i Flwyddyn 6 neithiwr. Gwnaeth pawb fwynhau mas draw yn y disgo ac yna aeth pawb yn ôl i'r ysgol i wylio’r gêm bêl- droed. I goroni’r diwrnod, cafodd disgyblion Blwyddyn 6 gyfle i Gysgu dan y Sêr!!
Joio mas draw!

🌟🎉🌟🎉🌟🎉🌟🎉🌟🎉🌟🎉🌟

There was a farewell party for Year 6 last night. Everyone enjoyed a night at the disco and then back to the school to watch the football. And to top off the day year 6 had a chance to Sleep under the Stars!! Everyone enjoyed!

Presenoldeb 100% Tymor yr Haf! Da iawn chi!
16/07/2026

Presenoldeb 100% Tymor yr Haf! Da iawn chi!

16/07/2026

Uchafbwyntiau 2025-2026 mewn llai na 5 munud

15/07/2026
Diwrnod dathlu y parti unsain. Taith yn yr haul i weld cartref yr AelwydCacennau sbesial Grug.Helfa hwyaid yn y cae. Joi...
15/07/2026

Diwrnod dathlu y parti unsain.
Taith yn yr haul i weld cartref yr Aelwyd
Cacennau sbesial Grug.
Helfa hwyaid yn y cae.
Joio!

Heddiw, bu disgyblion Talgarreg yn mwynhau eu trip haf i Barc y Deinosoriaid. Cawsant gyfle i weld deinosoriaid enfawr, ...
14/07/2026

Heddiw, bu disgyblion Talgarreg yn mwynhau eu trip haf i Barc y Deinosoriaid. Cawsant gyfle i weld deinosoriaid enfawr, dysgu llawer o ffeithiau diddorol a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog. Roedd pawb wedi mwynhau cloddio am ffosiliaid, a chafodd pawb amser gwych yn gweld y deinosoriaid enfawr, chwarae a chreu atgofion arbennig gyda’i gilydd. 🦕 🦖

Address

Talgarreg
Llandyssul
SA444ER

Opening Hours

Monday 8am - 3:30pm
Tuesday 8am - 3:30pm
Wednesday 8am - 3:30pm
Thursday 8am - 3:30pm
Friday 8am - 3:30pm

Telephone

+441545590683

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Ysgol Talgarreg posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Category