CBAC / WJEC Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from CBAC / WJEC, 245 Western Avenue, Cardiff (Caerdydd).

Mae CBAC yn brif gorff arholi sy'n darparu cymwysterau ac asesiadau arholiadau ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau annibynnol.

05/10/2026

O fis Medi 2027 ymlaen, bydd ein cymwysterau Project Personol a'r Gyfres Sgiliau Cenedlaethol 14-16 newydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth allweddol i ddysgwyr ledled Cymru ar gyfer bywyd a'r gweithle. 🚀

👉 Archwiliwch y cymwysterau newydd cyffrous hyn: https://bit.ly/3OQmXYH

Cawsom diwrnod anhygoel yn y Sioe Addysg Genedlaethol 2026 yn Arena Utilita Caerdydd!Fel noddwyr balch y sioe eleni, roe...
02/10/2026

Cawsom diwrnod anhygoel yn y Sioe Addysg Genedlaethol 2026 yn Arena Utilita Caerdydd!

Fel noddwyr balch y sioe eleni, roedd ein tîm wrth eu bodd yn cwrdd ag athrawon, arweinwyr a addysg proffesiynol o bob rhan o Gymru.

O sgyrsiau ynghylch ein cymwysterau ac adnoddau i glywed am brofiadau addysgwyr yn uniongyrchol, mae wedi bod yn gyfle gwych i ymgysylltu, rhannu syniadau a dathlu’r gwaith sy’n digwydd ar draws addysg yng Nghymru.

Diolch yn fawr i bawb ddaeth draw i Stondin 157 a 158 i ddweud helo. Roedd yn bleser gweld cynifer o wynebau cyfarwydd, a chwrdd â rhai newydd hefyd!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg...
01/10/2026

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, ac mewn Cymraeg Craidd, wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen.

“Mae'r cymwysterau hyn yn garreg filltir bwysig, ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu eu rhannu. Wedi'u llunio yn sgil barn athrawon, dysgwyr a rhanddeiliaid drwy gydol y broses ddatblygu" Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymwysterau.

Gweler yr holl wybodaeth yma: https://bit.ly/4yA36Pl

We are delighted to announce that our new AS and A levels in Cymraeg Language and Literature, and in Core Cymraeg have been approved by Qualifications Wales for first teaching from September 2027.  

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth wedi'i gymera...
28/09/2026

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth wedi'i gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.

Mae'r gymeradwyaeth yn garreg filltir bwysig i CBAC ac yn cwblhau ein cyfres lawn o gymwysterau Teithio a Thwristiaeth i Gymru gan ddarparu llwybr dilyniant clir i ddysgwyr o Lefel Mynediad 1 i Lefel 3.

Darllenwch yr erthygl lawn yma:

We are delighted to announce that our Level 3 Extended Certificate in Travel and Tourism has been approved by Qualifications Wales for first teaching from September 2027. 

21/09/2026

Wrth i ni baratoi ar gyfer addysgu ein cymwysterau Cenedlaethol 14-16 Ton 3 am y tro cyntaf ym mis Medi 2027, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i gyflwyno'r cyfleoedd newydd cyffrous hyn i'ch dysgwyr.

👉 Dysgwch fwy am ein cymwysterau Ton 3: https://bit.ly/47hOs2D

đź“© Cysylltwch â Sophie Dobbs am gefnogaeth bwrpasol: [email protected]

Gan fod ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru wedi'u cynllunio i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, mae myfyrwyr yn debygol o ddod ar...
16/09/2026

Gan fod ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru wedi'u cynllunio i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, mae myfyrwyr yn debygol o ddod ar draws testunau sensitif fel rhan o'u taith ddysgu.

Rydyn ni felly wedi datblygu canllawiau newydd ar sut i gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth, i'ch cefnogi chi wrth i chi gyflwyno'r cymwysterau: https://bit.ly/4h2diZz

Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. 

Rhowch hwb i'ch gwybodaeth am eich pwnc ac am asesu gyda'n Rhaglen Dysgu Proffesiynol 2026/27! Cafodd y rhaglen lawn ei ...
10/09/2026

Rhowch hwb i'ch gwybodaeth am eich pwnc ac am asesu gyda'n Rhaglen Dysgu Proffesiynol 2026/27!

Cafodd y rhaglen lawn ei llunio gyda'r bwriad o gefnogi athrawon bob cam o'r daith wrth gyflwyno cymwysterau. Cofiwch amdani felly, p'un a ydych yn chwilio am sesiynau wyneb yn wyneb neu ar-lein i'ch pwnc, neu hyd yn oed adborth Uwch Arholwyr/Cymedrolwyr ar yr arholiadau eleni:

Wrth i ni ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Rhaglen Digwyddiadau Dysgu Proffesiynol ar gyfer 2026/27 bellach yn fyw ac ar agor ar gyfer cofrestru. 

Mae rôl asesiadau di-arholiad yn fwy fwy pwysig yn llawer o'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru. Lluniodd ein tîm Datblygu Cymw...
07/09/2026

Mae rôl asesiadau di-arholiad yn fwy fwy pwysig yn llawer o'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru. Lluniodd ein tîm Datblygu Cymwysterau ganllawiau newydd yn ymdrin â'r gofynion a disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag Asesiadau Di-arholiad:

Mae Asesiadau Di-Arholiad yn chwarae rhan bwysig mewn llawer o'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth drwy amrywiaeth o ddulliau asesu, o bortffolios a gwaith ymarferol i brojectau sy'n seiliedig ar ymchwil. 

Mae addysg yng Nghymru yn esblygu – cymerwch y cam nesaf gyda manylebau Ton 3 newydd sbon CBAC, sydd bellach ar gael i'w...
02/09/2026

Mae addysg yng Nghymru yn esblygu – cymerwch y cam nesaf gyda manylebau Ton 3 newydd sbon CBAC, sydd bellach ar gael i'w lawrlwytho.

Rydym wedi gweithio gyda dros 100 o ganolfannau a 60+ o gyflogwyr i lunio cymwysterau sy'n cefnogi ffyrdd gwahanol o ddysgu a datblygu sgiliau, gan gynnig mwy o ddewis nag erioed o'r blaen i'r dysgwyr.

Dysgwch fwy a lawrlwythwch y manylebau cymeradwy:

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y gyfres lawn o fanylebau cymeradwy ar gyfer ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 bellach ar gael i'w lawrlwytho. 

⚠️ Diweddariad Pwysig: Newidiadau i Ddatganiad Dilysu yr Ymgeisydd a'r AthroMae pob Sefydliad Dyfarnu y CGC yn cyflwyno ...
01/09/2026

⚠️ Diweddariad Pwysig: Newidiadau i Ddatganiad Dilysu yr Ymgeisydd a'r Athro

Mae pob Sefydliad Dyfarnu y CGC yn cyflwyno Ffurflenni Datganiadau Dilysu yr Ymgeisydd a'r Aseswr wedi'u diweddaru ar draws pob cymhwyster â chydrannau Asesu Di-arholiad.

Rhaid defnyddio'r fersiynau wedi'u diweddaru ar gyfer pob asesiad a gwblhawyd ar neu ar ôl 1 Medi 2026. Mae hyn yn ofyniad gan y rheoleiddwyr a bydd methu â chydymffurfio yn arwain at ymchwiliad i gamymddygiad.

Address

245 Western Avenue
Cardiff
CF52YX

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Telephone

+442920265000

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when CBAC / WJEC posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The School

Send a message to CBAC / WJEC:

Share