Sociology / Cymdeithaseg Bangor University / Prifysgol Bangor

Sociology / Cymdeithaseg Bangor University / Prifysgol Bangor Welcome to Sociology/Cymdeithaseg@Bangor – your hub for news, research, events in Bangor’s social sciences.

Croeso i Sociology/Cymdeithaseg@Bangor – eich canolfan ar gyfer newyddion, ymchwil, digwyddiadau gwyddorau cymdeithasol Bangor.

*bilingual post / post dwyieithog***Baby Boomers and Social Change | Baby Boomers a Newid Cymdeithasol**🎙️ Braf iawn oed...
02/10/2026

*bilingual post / post dwyieithog*

**Baby Boomers and Social Change | Baby Boomers a Newid Cymdeithasol**

🎙️ Braf iawn oedd ymuno â **Dros Ginio ar BBC Radio Cymru** heddiw i drafod cenhedlaeth y **Baby Boomers** a’u dylanwad ar gymdeithas Cymru a Phrydain.

Mae’r genhedlaeth hon wedi byw drwy gyfnod eithriadol o newid – o ddatblygiad y wladwriaeth les, y GIG a thai cymdeithasol, i ddad-ddiwydiannu, twf perchnogaeth tai a newidiadau mawr ym myd gwaith, teulu a gwerthoedd cymdeithasol.

Buom hefyd yn trafod tlodi ac anghydraddoldeb, a’r gwahaniaethau rhwng profiadau’r cenedlaethau.

Mae edrych ar brofiadau’r Baby Boomers yn ein helpu i ddeall sut mae ein cymdeithas wedi newid – a rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu heddiw.

🎧 Diolch i **BBC Radio Cymru** am y gwahoddiad!

---

🎙️ Great to join **BBC Radio Cymru’s Dros Ginio** today to discuss the **Baby Boomer generation** and its influence on Welsh and British society.

This generation has lived through extraordinary change – from the development of the welfare state, NHS and social housing to deindustrialisation, rising home ownership and major shifts in work, family life and social values.

We also discussed poverty and inequality, and the different experiences of generations.

Looking at the Baby Boomers helps us understand how our society has changed – and some of the challenges we face today.

🎧 Thanks to **BBC Radio Cymru** for the invitation!

🎉🍕 Llongyfarchiadau i enillwyr ein Cwis Wythnos Groeso! 🏆Roedd hi’n wych gweld cymaint o’n myfyrwyr yn dod at ei gilydd ...
21/09/2026

🎉🍕 Llongyfarchiadau i enillwyr ein Cwis Wythnos Groeso! 🏆

Roedd hi’n wych gweld cymaint o’n myfyrwyr yn dod at ei gilydd i gael hwyl, rhoi eu gwybodaeth ar brawf, a mwynhau digon o pizza! 🍕🧠

Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan — a llongyfarchiadau arbennig i’n pencampwyr cwis! 👏

🏆🍕 Congratulations to the winners of our Welcome Week Quiz! 🎉

It was great to see so many of our students getting together, having fun, putting their knowledge to the test, and enjoying plenty of pizza! 🍕🧠

Thanks to everyone who took part — and a special congratulations to our quiz champions! 👏

Hiraeth neu nostalgia?Oes yna wahaniaeth rhyngddynt a pham fod cymaint o bobl yn trysori hen fagiau siopa plastig o arch...
20/09/2026

Hiraeth neu nostalgia?

Oes yna wahaniaeth rhyngddynt a pham fod cymaint o bobl yn trysori hen fagiau siopa plastig o archfarchnadoedd erbyn hyn? Ydy hynny yn ffordd o gofio'r gorffennol a chwilio am fywyd mwy syml, hiraethus yng nghysgod y chwyldro digidol? Dr Rhian Hodges, uwch-ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol bu trafod hyn ar raglen Aled Hughes 07/09. Gwrandewch eto ar BBC Sounds
https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m00313f3?partner=uk.co.bbc&origin=share-mobile

Hiraeth or Nostalgia?

Is there a difference between them and why are so many of us treasuring retro plastic bags from supermarkets? Is this a way of remembering the past and looking for a simpler life in the midst of a digital revolution? Dr Rhian Hodges, Senior Lecturer in Sociology and Social Policy discusses these questions on Aled Hughes' programme on Radio Cymru last week 07/09, listen again on BBC Sounds

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m00313f3?partner=uk.co.bbc&origin=share-mobile

📱 Ydi “helo” yn marw? 👋Pam fod rhai pobl ifanc ddim yn teimlo bod angen dweud “helo” wrth ateb y ffôn?Ces i gyfle heddiw...
18/09/2026

📱 Ydi “helo” yn marw? 👋

Pam fod rhai pobl ifanc ddim yn teimlo bod angen dweud “helo” wrth ateb y ffôn?

Ces i gyfle heddiw i drafod y stori yma ar y radio, ac edrych arni o safbwynt cymdeithasegol.

📞 Sut mae ein harferion wrth ddefnyddio'r ffôn wedi newid?
👥 Pam fod gwahaniaeth rhwng cenedlaethau?
💬 Sut mae technoleg yn newid ein defnydd o iaith a'n normau cymdeithasol?

Ac un ffaith ddiddorol: pan oedd y ffôn yn dechnoleg newydd, roedd Thomas Edison yn hyrwyddo “hello” fel cyfarchiad, tra bod Alexander Graham Bell yn ffafrio “ahoy”!

🎧 Cyfle i wrando ar yr eitem a ddarlledwyd heddiw.

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

📱 Is “hello” dying? 👋

Why do some young people no longer feel that saying “hello” is necessary when answering the phone?

I had the opportunity to discuss this story on the radio today, looking at it from a sociological perspective.

📞 How have our telephone habits changed?
👥 Why are there generational differences?
💬 And how does technology change our language and social norms?

One interesting historical twist: when the telephone was new technology, Thomas Edison promoted “hello” as a telephone greeting, while Alexander Graham Bell preferred “ahoy”!

🎧 Listen to the item broadcast today.



www.bbc.co.uk/programmes/p0pbb5bx

Y cymdeithasegydd Cynog Prys yn trafod yr arfer o ddweud 'Helo' wrth ateb y ffôn

🕯️ Cofio’r Athro Howard Davis | Remembering Professor Howard DavisHeddiw ym Mhrifysgol Bangor, cynhelir gweithdy arbenni...
18/09/2026

🕯️ Cofio’r Athro Howard Davis | Remembering Professor Howard Davis

Heddiw ym Mhrifysgol Bangor, cynhelir gweithdy arbennig er cof am y diweddar Athro Howard Davis, gan ddathlu ei gyfraniad pwysig i faes Cymdeithaseg Ddiwylliannol.

Dan y thema “Sut all Cymdeithaseg Ddiwylliannol gyfrannu at fyd gyd-gysylltiedig?”, bydd cydweithwyr, cyfeillion ac academyddion yn dod ynghyd i drafod gwaith ac etifeddiaeth academaidd Howard, yn ogystal â pherthnasedd parhaus Cymdeithaseg Ddiwylliannol i ddeall y byd sydd ohonom. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfraniadau sy’n edrych yn benodol ar waith a chyfraniad Howard i’r maes.

Diwrnod pwysig i gofio Howard, dathlu ei waith, a pharhau’r trafodaethau a’r syniadau a oedd mor ganolog i’w gyfraniad academaidd.

---

🕯️ Remembering Professor Howard Davis | Cofio’r Athro Howard Davis

Today at Bangor University, we are holding a special workshop in honour of the late Professor Howard Davis, celebrating his important contribution to Cultural Sociology.

Under the theme “How can Cultural Sociology benefit an interconnected world?”, colleagues, friends and academics are coming together to reflect on Howard’s work and academic legacy, as well as the continuing relevance of Cultural Sociology for understanding our interconnected world. The programme includes contributions specifically reflecting on Howard’s work and contribution to the field.

An important day to remember Howard, celebrate his work, and continue the conversations and ideas that were so central to his academic contribution.

📱 **OEDI DIWYLLIANNOL | CULTURAL LAG**Wythnos diwethaf, bu **Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor** ar **Raglen Aled Hughes,...
11/09/2026

📱 **OEDI DIWYLLIANNOL | CULTURAL LAG**

Wythnos diwethaf, bu **Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor** ar **Raglen Aled Hughes, BBC Radio Cymru**, yn trafod stori ddiweddar am Wetherspoons – a beth all hi ei ddweud wrthym am gymdeithas.

Mae Wetherspoons wedi gwahardd cwsmeriaid rhag chwarae cerddoriaeth neu fideos yn uchel, neu gynnal galwadau ffôn ar speaker, yn ei dafarndai.

Ond mae'r stori hefyd yn enghraifft ddiddorol o gysyniad cymdeithasegol: **oedi diwylliannol (*cultural lag*)**.

💡 Mae'r cysyniad, sy'n gysylltiedig â gwaith **William F. Ogburn**, yn ein helpu i feddwl am sefyllfaoedd lle mae **technoleg yn newid yn gynt na'n normau, ein gwerthoedd a'n rheolau cymdeithasol**.

🚗 Daeth ceir – ac yna datblygodd rheolau'r ffordd.
📱 Daeth ffonau clyfar – ac rydym dal i ddatblygu normau ynghylch eu defnyddio mewn mannau cyhoeddus.
🤖 Mae AI yn datblygu'n gyflym – tra bod ein rheolau a'n disgwyliadau cymdeithasol yn dal i esblygu.

Mae'r dechnoleg yn rhoi posibiliadau newydd i ni. **Mae cymdeithas wedyn yn gorfod penderfynu beth sy'n dderbyniol.**

—

📱 **CULTURAL LAG | OEDI DIWYLLIANNOL**

Last week, **Dr Cynog Prys, Bangor University**, joined **Aled Hughes on BBC Radio Cymru** to discuss what changing attitudes towards phone use in public can tell us about society.

*Cultural lag* describes how **technology can change faster than our social norms, values and rules**.

Cars → rules of the road 🚗
Phones → new social norms 📱
AI → rules still evolving 🤖

**Technology changes. Society adapts.**

📍Caerdydd ddoeCafodd Dr Hefin Gwilym y cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth bwrdd gron gyda Delyth Jewell, Dirprwy Weinid...
11/09/2026

📍Caerdydd ddoe

Cafodd Dr Hefin Gwilym y cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth bwrdd gron gyda Delyth Jewell, Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, yn trafod dyfodol gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru. Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar sut y gallwn wella dealltwriaeth y cyhoedd o ofal cymdeithasol, cryfhau'r sgwrs genedlaethol am ei werth, a sicrhau cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol.

Roedd yn fraint cyfrannu at drafodaeth mor bwysig ochr yn ochr â rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac mae angen i'w gyfraniad gael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu.

Bydd Hefin yn trafod gofal cymdeithasol yn fanylach yn fy modiwl blwyddyn gyntaf, HPS-1001 Polisi Cymdeithasol a Chymdeithas.


📍Cardiff yesterday

Dr Hefin Gwilym was pleased to take part in a roundtable discussion with Delyth Jewell, Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health, focused on the future of adult social care in Wales. The discussion explored how we can improve public understanding of social care, shape a stronger national conversation about its value, and strengthen the long-term sustainability of the sector.

It was great to hear a range of perspectives from across the sector and to contribute to an important discussion about the future of social care. These services play a vital role in supporting individuals, families and communities across Wales.

Hefin will discuss social care in more detail in my first-year module, HPS-1001 Social Policy and Society.

Bore yma Dr Hefin Gwilym yn stiwdios y BBC yng Nghaerdydd i recordio cyfweliad ar gyfer Dros Ginio gyda Gwenllian Grigg ...
10/09/2026

Bore yma Dr Hefin Gwilym yn stiwdios y BBC yng Nghaerdydd i recordio cyfweliad ar gyfer Dros Ginio gyda Gwenllian Grigg yn trafod adroddiad diweddar Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio bod Cymru mewn perygl o fagu un o'r cenedlaethau mwyaf afiach o blant ers degawdau oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd.

Yn ystod y drafodaeth, pwysleisiodd bwysigrwydd edrych ar achosion strwythurol iechyd gwael, gan gynnwys tlodi, tai gwael ac anghydraddoldebau cymdeithasol ehangach. Ni ellir gwella iechyd plant heb fynd i'r afael â'r amgylchiadau sy'n siapio eu bywydau bob dydd.

Diolch i'r tîm yn y BBC ac i Gwenllian am y sgwrs.

________________________________________

This morning Dr Hefin Gwilym visited the BBC studios in Cardiff to record an interview for Dros Ginio with Gwenllian Grigg, discussing the latest Royal College of Paediatrics and Child Health (RCPCH) Wales report.

The report warns that, without urgent action, Wales risks raising one of the unhealthiest generations of children in decades.
During the discussion, I highlighted the structural causes of poor health, including poverty, poor housing and wider social inequalities. Improving children's health means addressing the social and economic conditions that shape their lives.
Thanks to Gwenllian and the BBC team for the opportunity to discuss these important issues.

27/08/2026
24/08/2026

🎓There's still time to apply for a BA in Sociology at Bangor University!

Interested in understanding the issues shaping society today, from inequality and social justice to housing, poverty, migration and climate change?

Join a course that ranked 1st in the UK for Quality of Teaching in Sociology, with questions including how well teaching staff explain things and how often it challenges students to achieve their best work. (NSS 2026).

✅ Learn from expert lecturers
✅ Explore real-world social issues
✅ Develop valuable research and analytical skills
✅ Prepare for a wide range of careers

📞 Thinking about your options? Contact our Clearing Helpline Mon-Friday: 08000 851 818



Cymraeg 🏴

🎓 Mae amser o hyd i wneud cais i astudio BA mewn Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor!

Oes gennych ddiddordeb mewn deall y materion sy’n siapio cymdeithas heddiw, o anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i dai, tlodi, mudo a newid hinsawdd? Dewch ar gwrs sydd wedi’i osod yn gyntaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd Addysgu yn Cymdeithaseg, gyda chwestiynau'n cynnwys pa mor dda y mae staff dysgu'n egluro pethau a pha mor aml maen nhw'n herio myfyrwyr i gyflawni eu gwaith gorau. (NSS 2026).

✅ Dysgwch gan ddarlithwyr arbenigol
✅ Archwiliwch faterion cymdeithasol y byd go iawn
✅ Datblygwch sgiliau ymchwil a dadansoddi gwerthfawr
✅ Paratowch ar gyfer ystod eang o yrfaoedd

📞 Yn ystyried eich opsiynau? Cysylltwch â’n Llinell Gymorth Clirio Llun - Gwener: 08000 851 818

Address

Bangor University, Main Arts
Bangor
LL572DF

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Sociology / Cymdeithaseg Bangor University / Prifysgol Bangor posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The School

Send a message to Sociology / Cymdeithaseg Bangor University / Prifysgol Bangor:

Shortcuts

Share