23/09/2026
Rydym yn gyffrous i lansio ein clinig newydd – Clinig Cyngor Cyfreithiol i Ffermwyr, rhwng Prifysgol Bangor a Gamlins Law. Byddwn yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim i'r gymuned ffermio, unwaith y mis, drwy Microsoft Teams. Bydd y clinig hwn yn rhedeg ochr yn ochr â'n clinig cyffredinol, a fydd yn gweithredu o Stryd Fawr Bangor gan ddechrau ar 13 Hydref. Bydd y clinig i ffermwyr yn gweithredu mewn ffordd ychydig yn wahanol i'n clinig arferol. Bydd cyfreithiwr o Gamlins Law yn cynnal cyfweliadau â chleientiaid unwaith y mis drwy Microsoft Teams. Darperir y cyngor gan y cyfreithiwr yn ystod y cyfweliad, yn hytrach nag mewn llythyr cyngor. Bydd ein myfyrwyr yn ymuno â'r alwad ac yn arsylwi ar waith y cyfreithwyr, yn hytrach na chyfweld â'r cleientiaid eu hunain. Bydd hyn yn rhoi profiad gwerthfawr i'n myfyrwyr, y gallant ei ddefnyddio yn ein clinig cyffredinol. Os ydych chi'n ffermwr, neu'n adnabod rhywun yn y gymuned ffermio sydd angen cyngor cyfreithiol, cysylltwch â ni. Cynhelir y clinig cyntaf i ffermwyr ym mis Tachwedd. Bangor University