Academi Hywel Teifi

Academi Hywel Teifi Sefydliad arbennig iawn a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol ac un o fawrion y genedl.

Tra bod yr Academi’n gartref i dîm creiddiol o staff mae hefyd yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma. Mae’r canlynol wedi eu lleoli yn neu eu harwain gan yr Academi:
- Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
- Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Uned Cydymffurfiaeth Iaith a Chyfieithu
- Tŷ’r Gwrhyd

🤩 Diwrnod Agored i Israddedigion 👇📅 Dydd Sadwrn, 17eg Hydref ⏰ 9am-4pmDewch draw i Brifysgol Abertawe i'n gweld ni ar 17...
05/10/2026

🤩 Diwrnod Agored i Israddedigion 👇
📅 Dydd Sadwrn, 17eg Hydref
⏰ 9am-4pm

Dewch draw i Brifysgol Abertawe i'n gweld ni ar 17eg Hydref.

Yn ystod y Diwrnod bydd cyfle i chi ymweld â staff Academi Hywel Teifi yn y Sesiwn Galw Heibio Cymraeg yn Adeilad Techniwm Digidol ar gampws Singleton i glywed mwy am y ddarpariaeth Gymraeg a'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg! Bydd hefyd stondin Academi Hywel Teifi yn yr Hwb Gwybodaeth ar Gampws y Bae.

Cofiwch gofrestru yma 👇
https://www.swansea.ac.uk/cy/diwrnodau-agored/

Dim ond pythefnos sydd tan ein Diwrnod Agored ym mis Hydref! 🎉

Dere i archwilio ein campysau, cwrdd â staff a myfyrwyr, a chael blas ar fywyd ym Mhrifysgol Abertawe.

🚆 Rydym ni hefyd yn cynnig cymorth teithio a gostyngiadau i helpu i wneud dy ymweliad yn fwy fforddiadwy.

🔗Cadwa dy le a dechrau cynllunio dy ddiwrnod: swan.ac/cynllunia-dy-ddiwrnod

📢 SWYDD NEWYDD (MAMOLAETH tan 19 Rhagfyr 2026) 📢Cynorthwy-ydd Gwybodaeth ac Ymholiadau - Cyfnod Mamolaeth Cyflog: £25,10...
24/09/2026

📢 SWYDD NEWYDD (MAMOLAETH tan 19 Rhagfyr 2026) 📢
Cynorthwy-ydd Gwybodaeth ac Ymholiadau - Cyfnod Mamolaeth

Cyflog: £25,107 i £26,093 y flwyddyn
Lleoliad: Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau: 3 Hydref 2026

Rydym yn chwilio am Gynorthwy-ydd Gwybodaeth ac Ymholiadau i ymdrin ag ymholiadau cyffredinol gan aelodau'r cyhoedd tan 19 Rhagfyr 2026 i ddechrau cyn gynted â phosib.

MANYLION YMA ⬇️

Wylioch chi   ar S4C neithiwr? Wel mae dau o’r athrawon newydd gymhwyso wedi ennill eu cymhwyster dysgu ar gwrs TAR Prif...
10/09/2026

Wylioch chi ar S4C neithiwr? Wel mae dau o’r athrawon newydd gymhwyso wedi ennill eu cymhwyster dysgu ar gwrs TAR Prifysgol Abertawe 💫

Dysgwraig yw Jeanne Audren de Kedrel o Lydaw sydd nawr yn athrawes Ffrangeg a Sbaeneg yn Ysgol Gymraeg Bro Dur ac mae Lowri Whitrow yn ferch leol sydd hefyd yn dysgu yn Ysgol Bro Dur fel athrawes Gymraeg!

Gwyliwch ar BBC iPlayer neu /Clic i ddilyn eu blwyddyn gynta’ yn y swydd 🤩

Swydd newydd yn cael ei hysbysebu gan Learn Welsh Swansea Bay Region / Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe  Os ydych chi'n ...
03/09/2026

Swydd newydd yn cael ei hysbysebu gan Learn Welsh Swansea Bay Region / Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe

Os ydych chi'n chwilio am gyfle newydd i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg, rhowch gynnig arni!

Mae Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe yn dymuno penodi Tiwtor Gweithluoedd i ddarparu gwersi Cymraeg

Rhyddhawyd rhifyn newydd o Arwain, newyddlen Prifysgol Abertawe yn Cylchgrawn Golwg, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y ...
01/09/2026

Rhyddhawyd rhifyn newydd o Arwain, newyddlen Prifysgol Abertawe yn Cylchgrawn Golwg, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni. Mae'r atodiad arbennig hwn yn llawn straeon am ddatblygiadau diweddaraf y Brifysgol gan gynnwys llwyddiannau ein staff a'n myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ynghyd â hanes yr Athro Siwan Davies yn ennill Medal Wyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mae'r rhifyn bellach ar gael ar ein wefan, dyma ddolen i'r atodiad 👇
https://www.swansea.ac.uk/media/arwain-abertawe-2026-PRESS.pdf

Mor braf yw hi i edrych nôl ar Eisteddfod y Garreg Las - dyma gyfle i hel atgofion am ein hwythnos brysur yn Llantwd gyd...
01/09/2026

Mor braf yw hi i edrych nôl ar Eisteddfod y Garreg Las - dyma gyfle i hel atgofion am ein hwythnos brysur yn Llantwd gyda’n halbwm lluniau!

Explore this photo album by Swansea University on Flickr!

Rhowch gynnig arni!
01/09/2026

Rhowch gynnig arni!

Mae Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe (DCABA) yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â'n tîm o diwtorion iaith.

Yn ein sesiwn olaf yn y Babell Lên, dan gadeiryddiaeth Beti George, trafododd Cleif Harpwood, Meinir Mathias ac Euros Le...
07/08/2026

Yn ein sesiwn olaf yn y Babell Lên, dan gadeiryddiaeth Beti George, trafododd Cleif Harpwood, Meinir Mathias ac Euros Lewis ymateb celfyddyd i’r newid ieithyddol a chymdeithasol yn y Gorllewin. Sgwrsiwyd am y frwydr i amddiffyn cymdogaeth a’r heriau sy’n dod yn sgil esblygiad cymunedau. Soniodd y panel am eu dyhead i fyw bywyd yn y Gymraeg, a’r ymdrechion i uno cymdeithas er mwyn cyfrannu at fywyd Cymraeg, pwysigrwydd rhannu diwylliant, celfyddyd, cerddoriaeth a hanes lleol gyda’r genhedlaeth nesaf er mwyn creu balchder, bwrlwm a hunaniaeth glir yn eu cynefin, eu hiaith a’u gwlad.

Sesiwn olaf arbennig. Diolch am y croeso Eisteddfod y Garreg Las 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿👏🏻

Yn cloi sesiynau Prifysgol Abertawe yn y Babell Lên eleni bydd sesiwn arbennig 'Tua'r Gorllewin' gyda Beti George yn tra...
07/08/2026

Yn cloi sesiynau Prifysgol Abertawe yn y Babell Lên eleni bydd sesiwn arbennig 'Tua'r Gorllewin' gyda Beti George yn trafod sut y mae celfyddyd yn ymateb i newid cymdeithas a cholli iaith yn y gorllewin, gyda Cleif Harpwood, Meinir Mathias ac Euros Lewis.

Hefyd ar y Maes:
Yr Athro Andrew Davies yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel gydag awduron y gyfrol: Chwarter Canrif o Addysgu Ddatganoledig yng Nghymru
📍Stondin Llwyfan Llyfrau, Pentref Llên
🕥 10:30

Yr Athro Gwynedd Parry yn cymryd rhan mewn noson i gofio'r cerddor Meirion Williams fu farw 50 mlynedd yn ôl i eleni.
📍Encore
🕢19:30

Address

Prifysgol Abertawe
Abertawe

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Academi Hywel Teifi posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The School

Send a message to Academi Hywel Teifi:

Shortcuts

Share